Grindavík
Pentref pysgota ar Reykjanesskagi, Penrhyn Ddeheuol Gwlad yr Iâ, yw Grindavík. Mae'r rhan fwyaf o'i phoblogaeth yn gweithio yn y diwydiant pysgota. Mae sba geothermaidd y Lagŵn Glas wedi ei lleoli 3 milltir (4.8 km) o ganol y dref. Poblogaeth y dref yw 3,023.
Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 3,427 |
Cylchfa amser | UTC±00:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Reykjanesskagi |
Gwlad | Gwlad yr Iâ |
Arwynebedd | 423 km² |
Cyfesurynnau | 63.841283°N 22.437106°W |
Cod post | 240 |
Hanes
golyguSonia'r Landnámabók ("Llyfr y Gwladychu") fod 2 ymsefydlwr Llychlynaidd, Molda-Gnúpur Hrólfsson a Þórir Haustmyrkur Vígbjóðsson, wedi cyrraedd ardal Reykjanes tua'r flwyddyn 934. Ymsefydlodd Þórir yn Selvogur, a Krísuvík a Molda-Gnúpur yn Grindavík.
Sefydlodd meibion Moldar-Gnúpur dri canolfan; Þórkötlustaðahverfi, Járngerðarstaðarhverfi a Staðarhverfi. Mae'r Grindavik gyfoes wedi ei lleoli, gan fwyaf, yn lle roedd Járngerðarstaðarhverfi.
Mae gwreiddiau'r bwrdeisdref i'w canfod ym mhenderfyniad Einar Einarsson i symud yno i adeiladu a rhedeg siop yn 1897. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd poblogaeth y dref oddeutu 360.
Mae pysgota wedi bod yn rhan annatod o fywyd pobl Grindavik's er gwaethaf ei pheryglon. Ond gwellodd diogelwch y pysgotwyr a hwylustod y gwaith gydag agor glanfa newydd yn Hópið yn 1939. Ers 1950 gwelwyd datblygiadau sylweddol yn y diwydiant bysgota. Datganwyd Grindavík yn fwrdeistref yn 1974.
Nodweddion
golygu- Lleolir Y Lagŵn Glas (Islandeg: Bláa Lónið) rhyw 3 km i'r gogledd o'r dref. Mae'r lagŵn yn ganolfan sba geothermal enwog sy'n defnydio dŵr mineral a phoeth o orsaf ynni Svartsengi ger llaw.
- Ungmennafélag Grindavíkur (Umfg) yw clwb chwraeon y dref ac mae'n cynnwys stadiwn Grindavíkurvöllur.
- Mae Pont Rhwng y Cyfandiroedd (cynt, Leif Lwcus) sy'n ymestyn ar draws dyffryn hollt Álfagjá ger llaw. Dyma'r dyffryn sydd ar y ffin rhwng platiau tectonaidd Ewrasia a Gogledd America. Fe'i hadeiladwyd yn 2002 ac mae wedi ei henwi ar ôl Leif Eriksson, a deithiodd o Ewrop i Ogledd America bron 500 mlynedd cyn Columbus.
- Mae Amgueddfa Pysgod Hallt Gwlad yr Iâ yn y dref. Fe'i hagorwyd yn 2002 ac mae'n adrodd hanes y diwydiant pysgota ac halltu penfras a physgod eraill a'i phwysigrwydd i economi'r wlad dros y canrifoedd.[1]
Gefailldrefi
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Iceland Review. H.J. Hamar. 2005.