Gruffudd ap Dafydd Goch

Uchelwr Cymreig o ail hanner y 14eg ganrif; un o wyrion y Tywysog Dafydd ap Gruffudd.

Uchelwr o Gymru oedd Gruffudd ap Dafydd Goch (bl. ail hanner y 14g), a oedd yn un o wyrion y Tywysog Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn ap Gruffudd Tywysog Cymru, ac felly'n perthyn i Linach Aberffraw. Roedd yn fab i Ddafydd Goch, mab Dafydd ap Gruffudd. Trigai yng nghwmwd Nant Conwy (Sir Conwy). Ceir ei feddfaen yn hen eglwys plwyf Betws-y-Coed.

Gruffudd ap Dafydd Goch
Beddfaen carreg Gruffudd ap Dafydd Goch
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
Gwynedd Edit this on Wikidata
Man preswylNant Conwy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Blodeuodd1370 Edit this on Wikidata
TadDafydd Goch Edit this on Wikidata
MamAngharad ferch Heilin ap Tudur ab Endyfed Fychan Edit this on Wikidata
PlantEfa ferch Gruffudd ap Dafydd Gôch ap Dafydd, Gruffudd Fychan ap Gruffudd ap Dafydd Gôch Edit this on Wikidata

Cymharol ychydig a wyddom amdano. Trigai ym mhlasdy Y Fedw Deg, Nant Conwy. Roedd yn arweinydd rheithgor Cwmwd Nant Conwy yn 1352.[1]

Ef oedd tenant Cwmllannerch. Roedd yn un o etifeddion Gwely Cynwrig ab Iddon, sef tiroedd disgynyddion Cynrwig ab Iddon (hen enw Betws-y-Coed oedd 'Betws Wyrion Iddon'). Daliai dir yn Llanrwst, Penmachno a Chwmllannerch yn Nant Conwy ac yng nghwmwd Talybolion ym Môn.[1]

Beddfaen

golygu

Y tu ôl i'r allor yn hen Eglwys Betws-y-Coed, ceir beddfaen cerfiedig Gruffudd ap Dafydd Goch. Mae'r cerflun yn dangos Gruffudd yn ei arfwisg lawn ac yn dwyn yr arysgrif hon:

HIC JACET GRVFYD AP DAVYD GOCH : AGNVS DEI MISERE ME
(Yma y gorwedd Gruffudd ap Dafydd Goch: Boed i Oen Duw fod yn drugarhaol wrthyf)[2]
 
Beddfaen Gruffudd ap Dafydd Goch

Disgynyddion

golygu

Roedd disgynyddion Gruffudd yn cynnwys Hywel Coetmor, uchelwr o Nant Conwy a ymladdodd ar ochr y Tywysog Owain Glyndŵr, a'i frawd yntau Rhys Gethin, un o gapteiniaid mawr Glyn Dŵr yn y rhyfel dros annibyniaeth ar ddechrau'r 15g.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Syr John Wynn, History of the Gwydir Family (Gwasg Gomer, 1990), tTud. 109-110.
  2. Harold Hughes a H. L. North, The Old Chuches of Snowdonia (Bangor, 1924; arg. newydd, 1984).
  3. Syr John Wynn, History of the Gwydir Family (Gwasg Gomer, 1990). Tud. 109.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: