Grugiar goch

rhywiogaeth o adar
Grugiar goch
Lagopus lagopus scotica

Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Galliformes
Teulu: Phasianidae
Is-deulu: Tetraoninae
Genws: Lagopus
Rhywogaeth: Lagopus lagopus scotica
Enw deuenwol
Lagopus lagopus scotica









Aderyn ac isrywogaeth o adar yw Grugiar goch (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: grugieir cochion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Lagopus lagopus scotica; yr enw Saesneg arno yw Red grouse. Mae'n perthyn i deulu'r Ffesantod (Lladin: Phasianidae) sydd yn urdd y Galliformes.[1] Ystyrir y Grugiar goch yn isrywogaeth o'r Grugiar (Lagopus lagopus) gan lawer, ond yn rhywogaeth lawn gan eraill, gyda'r enw deuol Lagopus scotica. Caiff ei magu er mwyn ei hela.

Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Geirdarddiad golygu

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn L. lagopus scotica, sef enw'r rhywogaeth.[2] Daw'r gair Lagopus o'r Hen Roeg lagos (λαγος), sef "ysgyfarnog", + pous (πους), "troed". gan gyfeirio at draed pluog y genws hwn, a scoticus sef "o'r Alban".[3]

Ymhlith yr hen enwau Cymraeg arni y mae: Iâr y mynydd (ardal Aberdaron), Ceiliog y mynydd, Iâr goch (Morgannwg), Grugiar goch, Cochiad coch, y Grugiâr, Rhosiâr y grug (Nantgarw), Coch y graig (Nantgarw) a Cheiliog mynydd (Dinorwig).

Dosbarthiad golygu

Mae'r Grugiar goch yn frodorol o Ynysoedd Prydain (mae lle ddadlau mai dyma unig rhywogaeth o adar sydd yn endemig i ynysoedd Prydain [angen ffynhonnell]; datblygodd ar wahân i is-rywogaethau eraill o Rygieir a geir yn rhannau gogleddol o Ewrasia a Gogledd America.

Mae i'w gael yn y rhan fwayaf o'r Alban gan gynnwys Ynysoedd Erch (Orkney), Ynysoedd Shetland a'r rhan fwyaf o Ynysoedd Allanol Heledd. Nid ydynt i'w cael yn yr iseldiroedd o gwmpas Fife, fodd bynnag.

Yng Nghymru, ceir poblogaeth dda ohonynt yma ac acw, ond nid ydynt ar gynnydd. Eu cadarnleoedd yw Eryri, Bannau Brycheiniog a'r Elenydd. Dywedir i rai o Dde Cymru groesi Môr Hafren i Exmoor.

Cynefin golygu

Crynhoa Atlas Adar Gogledd Cymru Brenchley et al gynefin y grugiar goch fel mynydd, rhostir, gorgors a glaswelltir asidig yr ucheldir. Noda mai’r adar nodweddiadol sydd yn cyd-nythu â hi ar rostir a glaswelltir asidig ucheldir y Gogledd yw’r Gylfinir, yr Ehedydd, Tinwen y Garn a chorhedydd y Waun. Adar mwy lleol neu brin yn y cynefin hwn yw’r Bod Tinwen, y Cudyll Bach, y Dylluan Glustiog, y Grugiar Ddu, Pibydd y Mawn, y Cwtiad Aur, Mwyalchen y Mynydd, Crec yr Eithin a Llinos y Mynydd.

Nodweddir rhostir sych asidig gan lystyfiant megis grug Calluna gyda Grug y Mel, Llus, Brigwellt Main ac eithin. Fe'i ceir ym mhobman ar ein hucheldiroedd, ac mae'n arbennig o gyffredin ar y Berwyn. Yr unig eithriad yw ardal y Migneint, sydd gan mwyaf yn wlyb. Ceir rhostir gwlyb yn aml yn gymysg a gorgors, a'r prif blanhigion yw'r Grug Deilgroes a Chlwbfrwynen y Mawn. Ar yr ucheldiroedd yn y gorllewin a'r de y ceir hwn yn bennaf, yn enwedig ar y Rhinogydd a'r Migneint. Ar rostir sych a gwlyb fel ei gilydd, mae'r Ilwyni bychain yn gymysg a glaswellt a hesg, yn dibynnu ar y sefyllfa leol a'r dull rheoli. Ceir ychwaneg o fanylder ar gynefin y grugiar goch ar dudalen 51 o Atlas Adar Nythu Gogledd Cymru[4].

Teulu golygu

Mae'r grugiar goch yn perthyn i deulu'r Ffesantod (Lladin: Phasianidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Sofliar frown Synoicus ypsilophorus
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  3. Jobling, James A (2010). The Helm Dictionary of Scientific Bird Names. London: Christopher Helm. tt. 217, 351. ISBN 978-1-4081-2501-4.
  4. Brenchley et al
  Safonwyd yr enw Grugiar goch gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.