Grym (cysylltiadau rhyngwladol)

Un o brif gysyniadau cysylltiadau rhyngwladol yw grym sydd yn cyfeirio naill ai at gyflwr neu statws gwladwriaeth (neu weithredydd rhyngwladol arall) yn nhermau ei gallu i reoli neu ddylanwadu ar wladwriaethau a gweithredyddion eraill, neu at sefyllfa'r wleidyddiaeth grym rhwng gweithredyddion sydd yn gyrru cysylltiadau rhyngwladol.[1] Yn yr ystyr gyntaf, dosberthir grym rhyngwladol yn sawl categori, er enghraifft grym caled (milwrol ac economaidd) a grym meddal. Yn yr ail ystyr, gellir disgrifio'r drefn ryngwladol yn ôl dosbarthiad grym, er enghraifft cydbwysedd grym neu begynedd.

Ystyrir grym yn nodwedd ganolog cysylltiadau rhyngwladol gan yr ysgol realaidd.[2] Yn ôl realwyr, mae grym ar ffurf galluoedd neu adnoddau yn dynodi nerth gweithredyddion, ac o ganlyniad eu gallu i effeithio ar ddigwyddiadau neu eu rheoli.[3] Mae'r fath adnoddau, sydd yn galluogi gwladwriaeth i reoli a dylanwadu ar wladwriaethau eraill, yn cynnwys arweinwyr, lluoedd arfog, cryfder economaidd, tiriogaeth, a phoblogaeth. Pwysleisiai'r neo-realwyr, yn eu plith Kenneth Waltz, elfen strwythurol grym yn y drefn ryngwladol.[1]

Defnyddir sawl term i ddisgrifio statws grym gwladwriaethau mewn cyd-destun cysylltiadau rhyngwladol, gan ddynodi iddynt safle yn ôl eu galluoedd a'u pwysigrwydd yn y byd. Gelwir gwladwriaeth neu ymerodraeth a chanddi'r radd uchaf o rym milwrol yn uwchbwer, er enghraifft.

Ffynonellau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Peter Lamb a Fiona Robertson-Snape, Historical Dictionary of International Relations (Lanham, Maryland: Rowman & Littlefield, 2017), tt. 252–3.
  2. Stefano Guzzini, "Power" yn Encyclopedia of International Relations and Global Politics, golygwyd gan Martin Griffiths (Routledge, 2005), t. 689.
  3. Guzzini, "Power" (2005), t. 690.

Llyfryddiaeth golygu

  • Stefano Guzzini, "Power" yn Encyclopedia of International Relations and Global Politics, golygwyd gan Martin Griffiths (Routledge, 2005).
  • Peter Lamb a Fiona Robertson-Snape, Historical Dictionary of International Relations (Lanham, Maryland: Rowman & Littlefield, 2017).