Gustav Klimt
Peintiwr Symbolaidd o Awstria oedd Gustav Klimt (14 Gorffennaf 1862 – 6 Chwefror 1918). Roedd yn aelod blaenllaw yn y sefydliad Celfyddydol Newydd yn Fienna. Mae ei brif waith yn cynnwys paentiadau, murluniau, darluniadau a darnau o gelfyddyd amrhywiol eraill. Un o brif bynciau gwaith Klimt oedd y corff benywaidd ac yn aml mae ei waith yn cynnwys elfen erotig.
Gustav Klimt | |
---|---|
Ganwyd | Gustav Klimt 14 Gorffennaf 1862 Baumgarten, Fienna |
Bedyddiwyd | 16 Gorffennaf 1862 |
Bu farw | 6 Chwefror 1918 o strôc Altes AKH, Fienna |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Awstria, Cisleithania |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, cynllunydd, arlunydd graffig, drafftsmon, drafftsmon |
Adnabyddus am | Portrait of Adele Bloch-Bauer I, Beethoven Frieze, Y Gusan, Judith and the Head of Holofernes, The Three Ages of the Woman, Danaë, Portrait of Fräulein Lieser |
Arddull | Art Nouveau, celfyddyd grefyddol, peintio hanesyddol, celf tirlun, portread, celf genre, figure |
Prif ddylanwad | George Minne |
Mudiad | Symbolaeth (celf), Art Nouveau |
Tad | Ernst Klimt |
Mam | Anna Klimt |
Partner | Emilie Louise Flöge, Serena Lederer, Consuela Camilla Huber, Maria Zimmermann, Maria Učická |
Plant | Gustav Ucicky, Otto Zimmermann, Gustav Zimmermann |
Gwobr/au | Villa Romana Prize, Q26709112 |
llofnod | |
Bywyd
golyguYn fab i engrafwr, astudiodd Klimt yn Fienna pan fu'r ddinas ar ei anterth, yn brif ddinas gyfoethog Ymerodraeth Awstria-Hwngari. Ym 1880 cynhyrchodd murluniau yn arddull clasurol-realistig y cyfnod ar gyfer adeiladau cyhoeddus yn cynnwys y Burgtheater ac Amgeuddfa'r Kunsthistorisches.
Datblygodd ei waith i fod yn fwy arbrofol, ond beirniadwyd ei furluniau ar gyfer adeilad Prifysgol Fienna am eu delweddau rhyfeddol a'u harddull addurniadol, bras.
Fel canlyniad i'r feirniadaeth, ym 1897 bu'n un o'r arlunwyr a ffurfiodd y grŵp Wiener Sezession (Ymwahaniad Fienna) i herio'r sefydliad celfyddydol ceidwadol.
Wedi'i ddylanwadu gan fudiadau celfyddydol avant-garde o wledydd eraill Ewrop datblygodd ar ddiwedd ei oes arddull cyfoethog gyda symbolaeth gymhleth ac yn aml gynnwys erotig.
Ar ôl 1900 canolbwyntiodd ar bortreadau a thirluniau, er iddo gynhyrchu dau o'i furluniau mwyaf yn ystod y cyfnod yma, y Frieze Beethoven ac arddangoswyd ym 1902, ac ardduneddau ar gyfer y Palais Stoclet, Brwsel (1904-1911).
Treilliodd Klimt yr haf yn Attersee, ger Salzburg, a ysbrydolodd llawer o'i dirluniau a ble peintiodd rhai o'i weithiau mwyaf adnabyddus yn cynnwys Y Cusan, 1907-8.[1]
Cafodd nifer o'i weithiau eu difetha yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Gwerthodd ei lun Adele Bloch-Bauer I (1907), am $135 miliwm yn Efrog Newydd yn 2006 [2]
Dolenni allanol
golygu- "Adele's Wish" Ffilm ddogfen am achos llys Bloch-Bauer
- Gustav-Klimt.com
- Oriel a dadansoddiad o Gustav Klimt Archifwyd 2015-02-28 yn y Peiriant Wayback
- Oriel o waith Kimt ar Zeno.org[dolen farw]
- Oriel o waith Kiimt
- iKlimt.com
- Achos llys Bloch-Bauer Archifwyd 2000-08-30 yn y Peiriant Wayback
- Amgueddfa ar lein
- Oriel o waith Klimt
- "This Kiss to the Whole World" Klimt and the Vienna Secession (NYARC) Archifwyd 2019-05-12 yn y Peiriant Wayback
Oriel
golygu-
Dyn Dall, 1896
-
Pwll Llonydd, 1899
-
Athroniaeth, 1899–1907
Difethwyd 1945 -
Meddigyniaeth (manylder) 1899–1907
Difethwyd 1945 -
Cyfreitheg 1899–1907
Difethwyd 1945 -
Judith a Phen Holofernes, 1901
-
Portread Hermine Gallia, 1904
-
Tair Oes Merched, 1905
-
Portread Fritza Riedler,1906
-
Danaë, 1907.
-
Gobaith II, 1907–08,
-
Mäda Gertrude Primavesi, 1912,
-
Eugenia Primavesi, 1913–14)
-
Rhodfa yn Schloss Kammer Park, 1912
-
Frau bei der Selbstbefriedigung (Merch wrthi'n Mastyrbio), 1916
-
Cariadon, 1916–17
Difethwyd
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-01. Cyrchwyd 2015-03-25.
- ↑ Vogel, Carol (2006-06-19). "NY Times report from June 19, 2006". Nytimes.com. Retrieved 2011-05-15..