Gwacamoli (band)
Band pop Cymraeg o'r 1990au hwyr hyd at y flwyddyn 2000 oedd Gwacamoli. Galwyd y grŵp yn Gwacs gan ei dilynwyr. Roedd sain gitâr trydan cyflym a chryf yn nodweddu eu miwsig.
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Daeth i ben | 2000 |
Dechrau/Sefydlu | 1996 |
Genre | cerddoriaeth roc, Pop Cymraeg |
Roedd y band o ardal Bangor a'r brif leisydd oedd Gethin Thomas. Bu iddynt ryddhau CD 'Topsy Turvy', ac EP 'Clockwork'.[1] Roeddynt yn canu yn y Gymraeg a'r Saesneg ac, efallai eu trac fwyaf enwog oedd Plastig Ffantastig a ryddhawyd ar CD Amlgyfrannog rhaglen 'Ram Jam' ar BBC Radio Cymru yn 1997.[2] Rheolwyd y grŵp gan Rhys Mwyn.[1]
Mae enw'r band yn sillafiad yn yr orgraff Gymraeg o'r pryd bwyd ysgafn o Fecsico, guacamole.
Aelodau
golyguRoedd aelodau'r grŵp fel a ganlyn. Bu i Gethin Tomoas ymuno â'r band, Diablo Rojo wedi i Gwacamoli ddod i ben.[1]
- Gethin Tomos (hefyd Thomas) - prif leisydd
- Dyfed Roberts - gitâr
- Dylan Thomas - gitâr fâs
- Siôn Llwyd - allweddellau
- Deian Elfryn - drymiau
- Gareth Huws - drymiwr achlysurol (gynt o'r grŵp Tynal Tywyll)
Disgograffi
golyguCyhoeddodd y grŵp dau EP a chyfannu hefyd i CDs amlgyfrannog.[1]
- Topsy Turvy EP ar Label Crai (is-label i Recordiau Sain, CRAI CD068 (2000)
- Clockwork - recordiwyd yn stiwtio'r grŵp Melys ar Label Topsy, TCD-001 (2001)
CDs Amlgyfrannog
golyguCynhwyswyd rhai o ganeuon y band ar CDs amlgyfrannog gan gynnwys Mary Jane oedd oddi ar eu EP, 'Topsy Turvy'.
- Ram Jam Sadwrn 2 - CD amlgyfrannog rhaglen Ram Jam Sadwrn 2 gan BBC Radio Cymru - trac Plastig Ffantastig
- Ram Jam Sadwrn 3 - CD amlgyfrannog rhaglen Ram Jam ar BBC Radio Cymru - trac Siôn a Sian ar Ram Jam 3 (1998)
- Y Dderwen Bop - CD amgyfrannog gan Recordiau Sain - traciau Asbestoc Tescos a Chwarae Gitâr mewn band rock and roll (1998)
- 'Rhosyn Rhwng fy Nannedd - CD amlgyfrannog gan Recordiau Sain - trac Mary Jane (2006)[3]
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 "Interview – GETH TOMOS (Gwacamoli / Diablo Rojo)". links2wales. 14 Tachwedd 2013.
- ↑ "Gwacamoli". Gwefan Apple Music. Cyrchwyd 4 Medi 2024.
- ↑ "Rhosyn rhwng fy Nannedd". Recordiau Sain ar wefan Spotify. 2006.