Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)

Gwaith Islwyn oedd yr 8thfed gyfrol yng Nghyfres y Fil gan Gyhoeddiadau Ap Owen, Llanuwchllyn. Argraffwyd y llyfr gan gwmni R E Jones a'i Frodyr, Conwy ym 1903. Owen Morgan Edwards[1] yw golygydd y llyfr.

Gwaith Islwyn

Cefndir golygu

Islwyn golygu

Islwyn oedd enw barddol y Parch William Thomas (1832-1878)[2]. Ganwyd Islwyn yn yr Ynys Ddu yn nyffryn Sirhywi, Sir Fynwy, (Bwrsdeisdref Sirol Caerffili bellach). Mae'r Ynys Ddu yn sefyll ar odre Mynydd Islwyn, o'r mynydd y daeth ei enw barddol. Ac eithrio cyfnod o dan hyfforddiant yn Abertawe treuliodd Islwyn y cyfan o'i oes yn ardal ei enedigaeth. Yn Abertawe cyfarfu Islwyn ag Ann Bowen a dyweddïwyd y pâr ifanc. Bu farw Ann yn sydyn ym mis Hydref 1853 ychydig cyn eu diwrnod priodas arfaethedig. Cafodd marwolaeth Ann effaith mawr ar Islwyn. Trodd at grefydd i gael cysur. Dechreuodd pregethu i'r Methodistiaid ym 1854 a chafodd ei ordeinio yn weinidog ym 1859. Mae ei alar hefyd i'w gweld fel thema gyson yn ei ganu, mae hynny'n amlwg iawn yn y gyfrol yma gan fod y cyfan o'r cerddi yn y gyfrol wedi eu cyfansoddi rhwng 1854 ac 1856.

Y gyfrol golygu

Ym 1897 cyhoeddodd O M Edwards, yr hyn yr oedd yn tybied oedd casgliad cynhwysfawr o farddoniaeth Islwyn Gwaith Barddonol Islwyn 1832-1878. Casglodd deunydd o lyfrau, cylchgronau, trafodion eisteddfodau ac o lawysgrifau i greu llyfr 872 dudalen o hyd oedd yn cynnwys tua 300 o gerddi[3]. Ychydig wedi ysgrifennu ei lyfr cynhwysfawr

darganfuwyd ysgrif lyfr mawr, lle yr ysgrifenasai Islwyn y rhan fwyaf o'i fyfyrdodau yn ystod y blynyddoedd 1854 hyd 1856,-y blynyddoedd y bu'r ystorm yn curo yn erwin arno ef ei hun. O'r llyfr hwnnw, bron yn gyfan gwbl, y daw cynhwysiad y gyfrol hon.[4]

Felly atodiad i Gwaith barddonol Islwyn o tua 85 o gerddi ychwanegol sydd yn Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil). Mae llawysgrif gwreiddiol bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol[5]

Cynnwys golygu

Mae'r llyfr wedi ei rannu i bedwar adran:

  1. Dyffryn Galar. Mae'r adran yn cynnwys cerddi lle mae'r bardd yn canu am ei drallod, ei alar a'i ing.
  2. Y Storom ar y Bryniau. Yn yr adran hon mae'r bardd yn ceisio ymdopi gyda'r storm bersonol mae o'n byw drwyddo, gan chwilio am gysur o weld presenoldeb gras Duw yng nghanol ystormydd eraill megis Adda ac Efa yn colli paradwys Eden, Diluw Noah, Dioddefaint Crist a stormydd eraill.
  3. Lloffion o Dywesennau. Casgliad o gerddi oedd ddim yn y llawysgrif sydd ddim yn rhan o'i brif thema. Rhai ohonynt yn ymddangos fel gweithiau anorffenedig neu bigion wedi eu rhoi o'r neilltu.
  4. Nefol Wlad. Mae'r adran olaf yn dangos y bardd yn ceisio cymorth yn ei drallod o'i gariad at Grist, ei gariad am Gymru a'i gariad at natur.[6]

Oriel golygu

Gweler hefyd golygu

Rhestr o gerddi yng Ngwaith Islwyn (Cyfres y Fil)

Cyfeiriadau golygu

  1. "EDWARDS, Syr OWEN MORGAN (1858 - 1920), llenor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-01-30.
  2. "THOMAS, WILLIAM ('Islwyn,' 1832 - 1878), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a bardd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-01-30.
  3. Edwards, Owen Morgan (1897). Gwaith barddonol Islwyn : 1832-1878. Gwrecsam, Hughes a'i Fab.
  4. Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Rhagymadrodd
  5. "Islwyn MSS, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2022-01-30.
  6. Parry-Williams, T H. "Natur ym Marddoniaeth Cymru". Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion 1941, 1943: 97. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1386666/1412278/102#?.