Gwerclas
Plasty hynafol yw Gwerclas, a saif ar lan afon Dyfrdwy, tua cilometr i'r gorllewin o Eglwys Llangar a chilometr i'r gogledd o bentref Cynwyd, ger Corwen.[1] Arferai sefyll yn Sir Feirionnydd, yna Clwyd cyn newid i ffiniau presennol Sir Ddinbych. Mae'n blasdy bychan tair llawr gyda dwy aden iddo sy'n dod ymlaen o'r ffrynt ac fe'i cofrestrwyd yn Radd II* ar 6 Ebrill 1952 gan Cadw (Rhif cofrestriad: 662). Cafodd ei afdeiladu mewn dull clasurol yn y 1767 ar seiliau adeilad tipyn hynach o Gyfnod y Tuduriaid. Ers 1767 ychydig iawn o newidiadau sydd wedi digwydd i'r plasty ar wahân i ambell fanylun e.e. newidiwyd llechi'r to yn niwedd yr 20g am deils.
Math | plasty |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Cynwyd |
Sir | Cynwyd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 148.2 metr, 142.2 metr |
Cyfesurynnau | 52.9682°N 3.4118°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Ymhlith y rhannau nodedig mae: wyneb bric y tŷ, sy'n dyddio i'r 18g ar waelod cadarn o garreg, ffenestri fenisiaidd ar y llawr cyntaf, cyntedd sy'n dyddio nôl i 1767 gydag arfbais, drws ffrynt gyda cholfnau ionig a grisiau o'r 18g. Mae dwy o ffenestri'r cefn o'r 17g.[2]
Claddfa hynafol
golyguCeir claddfa gron 14 metr (60 tr) o ddiametr, gyda 'phalmant' ar yr ochr ddwyreiniol; saif yn yr ardd, ger glan afon gerllaw'r plasty (cyfeirnod grid: SJ05394213).[3] Ni chafwyd hyd yma (2016) unrhyw archwiliad archaeolegol ond credir yn gyffredinol mai carnedd neu Siambr gladdu hir ydyw o'r Oes Efydd.
Gweler hefyd
golygu- Lleweni, a leolwyd tua 3 km i'r gogledd-ddwyrain o dref Dinbych
- Bachymbyd, plasty ger Rhuthun a sefydlwyd gan Pyrs Salbri.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Coflein;[dolen farw] adalwyd Chwefror 2016
- ↑ britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd Chwefror 2016
- ↑ Gwefan Coflein;[dolen farw] adalwyd Chwefror 2016
- Trefor Jones, O Ferwyn I Fynyllod, 1975
- Peter Smith, Houses of the Welsh Countryside, 1988