Gwerful Goch ferch Cynan ab Owain Gwynedd

Tywysoges Gymreig yn Llinach Aberffraw

Tywysoges Gymreig yn Llinach Aberffraw oedd Gwerful Goch neu Gwerful Goch ferch Cynan ab Owain Gwynedd (bl. tua 1200). Coffeir Gwerful yn enw'r pentref Betws Gwerful Goch, Sir Ddinbych. Yn ôl pob tebyg, cafodd yr enw "Gwerful Goch" am ei bod yn bengoch (cf. Iolo Goch efallai).[1]

Gwerful Goch ferch Cynan ab Owain Gwynedd
Saif Eglwys Fair ar safle'r betws a godwyd dan nawdd Gwerful. Ailadeiladwyd rhannau sylweddol o'r eglwys yn 1880-81.
Ganwyd12 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Blodeuodd1200 Edit this on Wikidata
TadCynan ab Owain Gwynedd Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Ganed Gwerful rywbryd cyn 1174 (bu farw ei thad yn y flwyddyn honno) ond ni wyddys pa flwyddyn yn union.

Roedd hi'n ferch i Gynan ab Owain Gwynedd (m. 1174), mab y Tywysog Owain Gwynedd, yn ôl rhai hen achau. Buasai yn ei blodau tua diwedd y 12g a dechrau'r 13g felly.

Roedd ei hewythredd yn cynnwys y bardd-dywysog Hywel ab Owain Gwynedd, Iorwerth Drwyndwn (tad Llywelyn Fawr, Tywysog Cymru) a Rhodri (m. 1195, hendaid Senana gwraig Gruffudd ap Llywelyn a mam Llywelyn ein Llyw Olaf).

Ei brodyr oedd y tywysogion Gruffudd ap Cynan ab Owain Gwynedd (m. 1200) a Maredudd ap Cynan (m. 1212).

Priododd Gwerful y tywysog Iarddur ap Trahaearn ap Cynddelw ap Rhirid.[1]

Bu farw Gwerful rywbryd yn hanner cyntaf y 13eg, yn ôl pob tebyg, a chafodd ei chladdu yn arglwyddiaeth Dinmael, efallai yn yr eglwys a sefydlodd hi ei hunan yno.[1] Mae'r diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones yn awgrymu iddi roi nawdd i godi capel anwes ('betws') yn y pentref yn Ninmael a gafodd ei enwi'n Fetws Gwerful Goch wedyn.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Geraint Bowen (gol.), Atlas Meirionnydd (Dolgellau, 1975). Adran 'Enwau Lleoedd' d.g. Betws Gwerful Goch.
  2. Bedwyr Lewis Jones, Yn Ei Elfen (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1992), tt. 18-19.