Betws Gwerful Goch

pentref yn Sir Ddinbych

Pentref bach gwledig, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Betws Gwerful Goch ("Cymorth – Sain" ynganaid )(ffurf hynafiaethol: Bet[t]ws Gwerfil Goch). Roedd gynt yn rhan o Sir Feirionnydd (tan 1974) ac ar ôl hynny Clwyd (1974 - 1996). Roedd Betws Gwerful Goch yn rhan o hen arglwyddiaeth annibynnol Dinmael yn yr Oesoedd Canol. Fe'i lleolir rhwng Melin y Wig a Chorwen yn ne eithaf y sir. Rhed Afon Alwen heibio iddi.

Betws Gwerful Goch
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGwerful Goch ferch Cynan ab Owain Gwynedd Edit this on Wikidata
Poblogaeth351 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,250.81 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.007°N 3.44°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000141 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ033465 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map
Am enghreifftiau eraill o enwau lleol sy'n cynnwys y gair Betws, gweler Betws (gwahaniaethu).

Yr eglwys a'r plwyf golygu

Roedd Betws Gwerful Goch yn un o blwyfi hynafol cwmwd Edeirnion ym Merionnydd. Dywedid ei bod yn bosibl taflu carreg o lan yr eglwys i un o'r tair plwyf y mae ei ffiniau'n cwrdd yno, sef plwyfi Corwen, Llanfihangel Glyn Myfyr, a Gwyddelwern. Mae'r eglwys yn gysegredig i'r Santes Fair.

Ceir y cyfeiriad hanesyddol cyntaf at yr eglwys yn 1254, ond fel yn achos nifer o fannau eraill mae'n bosibl fod eglwys yno cyn hynny. Cafodd yr eglwys ei hatgyweirio'n sylweddol yn 1882 ond cedwir ynddi rhai o'r cerfiadau pren hynafol o'r hen eglwys.

Gwasanaethodd y llenor Edward Samuel, taid David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg) fel rheithor y plwyf o 1702 hyd 1721, pan symudodd i blwyf Llangar.

Gwerful Goch golygu

Roedd Gwerful yn ferch i Gynan (m. 1174) fab Owain Gwynedd, yn ôl rhai hen achau. Buasai yn ei blodau tua'r flwyddyn 1200 felly. Un o'i hewythrau oedd y bardd-dywysog enwog Hywel ab Owain Gwynedd. Cafodd ei chladdu yn Dinmael. Dyna'r cwbl sy'n hysbys amdani ond mae'r diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones yn awgrymu iddi roi nawdd i godi capel anwes ('betws') yno a gafodd ei henwi'n Fetws Gwerful Goch wedyn.[1]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Betws Gwerful Goch (pob oed) (351)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Betws Gwerful Goch) (204)
  
59.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Betws Gwerful Goch) (208)
  
59.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Betws Gwerful Goch) (40)
  
29%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Bedwyr Lewis Jones, Yn Ei Elfen (Llanrwst, 1992), tt. 18-19.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.