Crimea

gorynys yng ngogledd y Môr Du
(Ailgyfeiriad o Penrhyn y Crimea)

Gorynys yn nwyrain Ewrop ar arfordir gogleddol y Môr Du, wedi'i amgylchynu bron yn gyfan gwbl gan y Môr Du a Môr Azov yw Crimea (Rwsieg: Крымский полуостров; Tatareg Crimea: Qırım yarımadası; Wcraineg: Кримський півострів). Saif i'r de o Wcráin ac i'r gorllewin o Kuban, Rwsia. Ers 2014 mae'r Crimea yn ffurfio Dosbarth Ffederal Crimea, sy'n cynnwys Gweriniaeth Crimea a Dinas Sefastopol.

Crimea
Mathgorynys, tiriogaeth ddadleuol Edit this on Wikidata
LL-Q58635 (pan)-Gaurav Jhammat-ਕ੍ਰੀਮੀਆ.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,340,921 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGweriniaeth Hunanlywodraethol y Crimea, Gweriniaeth Crimea Edit this on Wikidata
GwladWcráin, Rwsia Edit this on Wikidata
Arwynebedd27,000 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Du, Môr Azov Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45°N 34°E Edit this on Wikidata
Map
Am y bwlch yng Ngwynedd a adwaenir fel "Bwlch y Crimea" gweler Bwlch y Gorddinan.

Mae dau fôr o'i gwmpas: Y Môr Du a Môr Azov tua'r dwyrain gyda Isthmws Perekop yn ei gysylltu â'r tir mawr. Mae rhan helaeth y Crimea yn wastadedd ond mae'n codi i 1545m (5069 troedfedd) yn y de gyda chopa Gora Roman-Kosh, yr uchaf o gadwyn o fryniau ar hyd arfordir de-ddwyreiniol yr orynys a adnabyddir fel Mynyddoedd Crimea. Y prif ddinasoedd yw Feodosia, Kerch, Sevastopol, Yalta, Yevpatoria a Simferopol, y brifddinas.

Mae mwyafrif y boblogaeth (58%, Cyfrifiad 2001) yn Rwsiaid ethnig, gyda hefyd Wcrainiaid (24%) a Thatariaid Crimea (12%). Rwsieg yw mamiaith y mwyafrif (77%, Cyfrifiad 2001), er bod nifer o bobl â'r Datareg Crimea (11%) a'r Wcraineg (10%) fel mamiaith. Yr unig iaith swyddogol dan feddiant Wcráin oedd yr Wcraineg, ond ers ailymuno a Rwsia yn 2014 mae'r Rwsieg, Wcreineg a'r Datareg yn ieithoedd swyddogol.

Perchnogaeth

golygu

Yn 2014 cafwyd cryn ddadlau ynghylch perchnogaeth y Crimea. Bu'n rhan o Rwsia o'r 18g ymlaen. Arosodd yn rhan o Rwsia pan sefydlwyd yr Undeb Sofietaidd. O ganol y 1950au, pan benderfynodd Nikita Khrushchev ei roi i Weriniaeth Sofietaidd Wcráin, hyd 2014 fe'i gweinyddwyd fel gweriniaeth hunanlywodraethol o dan reolaeth Wcráin. Enw swyddogol y weriniaeth honno oedd Gweriniaeth Hunanlywodraethol y Crimea (Wcraineg Автономна Республіка Крим/Avtonomna Respublika Krym, Tatareg Crimea Qırım Muhtar Cumhuriyeti).

Ym Mawrth 2014, yn dilyn y chwyldro neu coup yn Kiev a ddisodlodd yr Arlywydd Petroshenko, pleidleisiodd trigolion y Crimea dros sefydlu Gweriniaeth Crimea. Ar y pryd, dim ond Rwsia oedd yn ei chydnabod; gweler Rhestr gwledydd anghydnabyddedig.

 
Map yn dangos lleoliad Gweriniaeth Hunanlywodraethol y Crimea o fewn Wcráin

Coloneiddwyd y Crimea gan y Groegiaid yn y 6ed ganrif CC. Cafodd ei oresgyn yn ddiweddarach gan y Gothiaid, yr Hyniaid ac eraill. Yn 1239 cafodd ei wneud yn khaniad gan Tatariaid yr Haid Euraidd. Cipiwyd y khaniad gan y Tyrciaid yn 1475 a chafodd y Crimea ei feddiannu gan Rwsia yn 1783. Rhwng 1853 a 1856 ymladdwyd Rhyfel y Crimea yno rhwng lluoedd Rwsia ar un ochr a lluoedd Prydain, Ffrainc ac Ymerodraeth yr Otomaniaid ar yr ochr arall. Meddiannwyd y Crimea gan yr Almaen Natsïaidd yn yr Ail Ryfel Byd (1941-1943). Ar ôl y rhyfel cafodd y Tartariaid eu halltudio i Wsbecistan yn eu crwnswth am gydweithredu, yn ôl yr honiad, â'r Almaenwyr. Ers cwymp yr Undeb Sofietaidd mae llawer ohonynt wedi dod yn ôl.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu