Hen Ganolfan yr Urdd Caerdydd
Lleolwyd Hen Ganolfan yr Urdd Caerdydd (neu Aelwyd yr Urdd Heol Conwy) ar Heol Conwy yn ardal Pontcanna o ddinas Caerdydd a bu am bron i 40 mlynedd yn ganolfan Gymraeg gan gynnal swyddfeydd a gweithgareddau'r Urdd a digwyddidau Cymraeg eraill. Mae'r safle bellach yn safle fflatiau a does dim ar ôl o'r hen adeilad.
Hanes
golyguPerthyna'r adeilad yn wreiddiol i gapel Fethodistaidd Conway Road [1] (capel Saesneg ei hiaith) sydd ar waelod Heol Conway a gyferbyn â'r adeilad. Fe'i adeiladwyd yn 1893 a dyna oedd adeilad Ysgol Sut y capel.
Daeth Canolfan Aelwyd yr Urdd Caerdydd yn symbol o fwrlwm bywyd Cymraeg y brifddinas ar ddechrau'r 1960au a'r 1970au.
Yn dilyn sawl Eisteddfod a chyngerdd llwyddiannus fe gyfrannodd y Côr Aelwyd Caerdydd £2,000 at gost prynu cartref parhaol ar gyfer gweithgareddau Cymraeg yng Nghaerdydd. Talwyd £14,000 i'r capel am brynu'r adeilad gan y Capel yn 1968.
Codwyd hefyd £14,000 i'r Ganolfan gan gêm rygbi olaf Barry John.[2] sef Gêm Jiwbili yr Urdd yn 50 oed yn 1972.[3]
Yn ôl Gwilym Roberts, oedd yn athro a thiwtor Cymraeg ail-iaith yng Nghaerdydd roedd "... yr aelwyd yn cyfarfod yno, ond roedd y parti dawns yn cyfarfod yno, dosbarthiadau Cymraeg, pob math o weithgareddau, ysgol feithrin hefyd." Daeth y lle, maes o law, yn swyddfa rhanbarthol i'r Urdd a bu siop lyfrau Cymraeg, 'Taflen' yno yn ystod yr 1980au.[4]
Ymysg nifer o'r gweithgareddau a chymdeithasau a ddefnyddiau'r Ganolfan fel canolfan i'w clwb oedd Cwmni Dawns Werin Caerdydd a sefydlwyd yn 1968 [5][6] a bu'n ymarfer yn y Ganolfan ac yn y clwb hwnnw y penderfynwyd sefydlu Dawnswyr Nantgarw yn 1980.[7] Yma hefyd y cynhaliwyd y cwrs dysgu dwsg i ddysgu Cymraeg, Wlpan yn 1973. Athrawon y cwrs cyntaf hwn oedd Chris Rees a Gwilym Roberts.[8]
Dirywiad
golyguMae'n amlwg erbyn 1988 fod cost rhedeg y Ganolfan a llai o ddefnydd o'r lle. Mewn erthygl yn Y Dinesydd, papur bro Caerdydd, ysgogodd John Albert Evans i siaradwyr Cymraeg y ddinas ymaelodu a chyfrannu i gronfa 'Pwyllgor Rheoli Canolfan yr Urdd' er mwyn cynorthwyo gyda'r costau o gadw'r lle ar agor.[2] Fel nodwyd yn yr erthygl (ar dudalen 8) roedd siop lyfrau 'Taflen' wedi symud i 11, Arcêd Styd y Dug, ynghannol dinas Caerdydd. Yn wir, ar dudalen 12 o'r un rhifyn ceir hysbyseblen i lwyddiant y siop yn y lleoliad newydd.
Gwerthu
golyguGwerthwyd yr adeilad yn Hydref 2003. Dymchwelwyd yr hen adeilad gan adeiladu oddeutu 15 o rhandai newydd yn ei le.
Canolfan Newydd
golyguYn dilyn gwerthu'r adeilad, symudwyd gweithgareddau i sefydlu Gwersyll yr Urdd Caerdydd yn rhan o adeilad Ganolfan y Mileniwm a agorwyd yn fuan wedyn. Yn ogystal â darparu swyddfeydd dyma bellach bencadlys genedlaethol yr Urdd, ond, yn wahanol i'r hen aelwyd, ni chynhelir gweithgareddau gwirfoddol gan grwpiau megis grwpiau dawns werin neu gorau yno.
Dolenni
golygu- Gwersyll yr Urdd Caerdydd Archifwyd 2019-01-16 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
golygu- ↑ https://conwayroadmethodist.com/
- ↑ 2.0 2.1 http://dinesydd.cymru/dinesyddhenpdf/din1988m02r142p.pdf[dolen farw]
- ↑ https://www.casgliadywerin.cymru/items/38520
- ↑ http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_3190000/newsid_3198800/3198888.stm
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-05-17. Cyrchwyd 2019-01-17.
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/44813953
- ↑ http://dinesydd.cymru/index.php/2018/07/31/dawnswyr-nantgarw/[dolen farw]
- ↑ "WLPAN: O Israel i Gymru: Hanes cyrsiau Cymraeg i Oedolion". Gwefan ddwyieithog Parallel Cymru. 23 Awst 2018.