Gwerth ychwanegol crynswth

Term economaidd yw gwerth ychwanegol crynswth neu GYC sy'n golygu gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir mewn ardal neu sector o economi.[1]

Perthynas i gynnyrch mewnwladol crynswth

golygu

Fel mesuriad fe gysylltir GYC â chynnyrch mewnwladol crynswth (CMC), gan fod y ddau yn fesuriadau allbwn. Diffinnir y berthynas fel y ganlyn:

GYC + trethi ar gynhyrchion - cymorthdaliadau ar gynhyrchion = CMC

Gan mai cyfanswm cyfanred trethi ar gynhyrchion a chymorthdaliadau ar gynhyrchion ddim ond ar gael ar lefel holl-economi,[2] defnyddir GYC i fesur cynnyrch mewnwladol rhanbarthol crynswth a mesuriadau eraill o allbwn endidau sy'n llai na holl economi.

Roedd cyfanswm GVA Caerdydd a Bro Morgannwg yn 2015 yn £11,044 miliwn, cymaint â chyfanswm GVA Botswana,[3][4] ac roedd y GVA y pen yn £22,783, sef oddeutu'r un faint a'r ffigwr ar gyfer Malta, Bahrain a Spaen. Roedd cyfanswm GVA Abertawe yn 2015 yn £4,503 miliwn, swm tebyg iawn i Malawi ac ychydig uwch na Montenegro.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Gross Value Added (GVA) Briefing Paper. Cyngor Sir Gaint (29 Hydref, 2007). Adalwyd ar 3 Medi, 2008.
  2. (Saesneg) Guide to Gross Value Added (GVA). Swyddfa Ystadegau Gwladol (15 Tachwedd, 2002). Adalwyd ar 3 Medi, 2008.
  3. "ONS Regional GVA - December 2016". Cyrchwyd 10 Mehefin 2017.
  4. "Subregional Productivity - January 2017". Cyrchwyd 10 Mehefin 2017.
  Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.