Erynnis tages
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Hesperiidae
Genws: Erynnis
Rhywogaeth: E. tages
Enw deuenwol
Erynnis tages
(Linnaeus, 1758)

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwibiwr llwyd, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwibwyr llwyd; yr enw Saesneg yw Dingy Skipper, a'r enw gwyddonol yw Erynnis tages.[1][2]

Mae i'w weld ledled Ewrop, Asia Leiaf a chanol Affrica ac at ardal Amur. Tir agored, gwelltog yw ei hoff gynefin - hyd at 2,000 metr uwchlaw lefel y môr. Mae'r glöyn byw yn paru ddwywaith: rhwng Mai a Mehefin a rhwng Gorffennaf ac Awst, ond unwaith yn unig mae'r rheiny sy'n byw ar dir uchel yn paru.

Hoff fwyd y math Ewropeaidd yw Eryngium, Lotus, Coronilla, Medicago, Hippocrepis ayb.

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r gwibiwr llwyd yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: