Gwilym Edwards
Gweinidog Presbyteraidd ac awdur ar bynciau diwinyddol oedd Gwilym Arthur Edwards (31 Mai 1881 – 5 Hydref 1963). Roedd yn Brifathro yng Ngholeg Diwinyddol Unedig Aberystwyth o 1939 hyd at 1949.
Gwilym Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 31 Mai 1881 Caernarfon |
Bu farw | 5 Hydref 1963 Llanycil |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Bywyd a gyrfa
golyguGaned Edwards yng Nghaernarfon, Gwynedd. Ymfudodd ei dad, Owen Edwards, a oedd yn weinidog Presbyteraidd, i Awstralia oherwydd iechyd, bu farw ei wraig, Mary, cyn iddi allu ymuno ag ef gyda'u plant yno. Magwyd Edwards gan ei nain a'i daid ar ochr ei fam yn Nolgellau, a chafodd addysg yn yr ysgol sir yno cyn astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Graddiodd gyda gradd BA yn 1903 ac yn ddiweddarach astudiodd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen lle graddio yn 1908.[1]
Dechreuodd Edwards bregethu yn ifanc ac ordeiniwyd ef yn 1909, gan wasanaethu yng nghapel Seion, Caerfyrddin. Rhwng 1911 a 1917, bu'n weinidog mewn capel yng Nghroesoswallt. Fe weithiodd hefyd yng nghapeli Caer (1917 i 1923) ac ym Mangor (1923 i 1928). Penodwyd Edwards wedyn yn athro yng Ngholeg y Bala yn 1929, cyn dod yn Brifathro Coleg Diwinyddol Aberystwyth yn 1939. Wedi ymddeol yn 1949 symudodd yn ôl i Groesoswallt. Yn 1957 ef oedd Llywydd Cymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Bu farw ar y 5ed o Hydref 1963 a chladdwyd ef yn Llanycil, Gwynedd.[2]
Gwaith
golyguRoedd Edwards yn darlithio ac yn ysgrifennu'n helaeth i gylchgronau'r eglwys Bresbyteraidd Gymreig. Ysgrifennodd lyfrau Cymraeg yn seiliedig ar y Beibl ac ar athrawiaeth Gristnogol gan gynnwys hanes gwareiddiad a hanes Coleg y Bala. Ysgrifennodd hefyd ddwy gyfrol o straeon i blant yn Gymraeg a maes llafur addysg grefyddol yn ysgolion Cymru. Ysgrifennodd a chyhoeddodd bamffled ar athrawon Ysgol Sul a heddwch byd-eang gan y Cenhedloedd Unedig yn 1934. Cafodd ei ddisgrifio fel "ysgolhaig gyda meddwl clir, dadansoddol" a roddodd "sylw mawr i fanylion".
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Crefydd: https://biography.wales/article/s2-EDWA-ART-1881. Y Bywgraffiadur Cymreig.
- ↑ Roberts, G. M., (1997). EDWARDS, GWILYM ARTHUR (1881 - 1963), gweinidog (MC), prifathro Coleg Diwinyddol Aberystwyth, ac awdur. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 20 Chw 2024, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-EDWA-ART-1881