Gwladwr Cymreig
Xestia ashworthii | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Noctuidae |
Genws: | Xestia |
Rhywogaeth: | X. ashworthii |
Enw deuenwol | |
Xestia ashworthii (Doubleday, 1855) | |
Cyfystyron | |
|
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwladwr Cymreig, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwladwyr Cymreig; yr enw Saesneg yw Ashworth's Rustic, a'r enw gwyddonol yw Xestia ashworthii.[1][2]
Dosbarthiad
golyguRhywogaeth leol iawn, sydd i'w chael yn ardaloedd mynyddig Gogledd Cymru yn unig, lle mae'n byw ar fryniau llechi a chalchfaen.
Ffenoleg
golyguMae'r genhedlaeth sengl yn hedfan rhwng Mehefin ac Awst, pan ddaw i olau a siwgr.
Cylch bywyd
golyguMae'r larfa yn bwydo ar amrywiaeth o blanhigion isel gan gynnwys cor-rosyn cyffredin (Helianthemum chamaecistus), grug (Calluna) a bysedd y cŵn (Digitalis purpurea). Ar ddiwrnodau heulog weithiau gellir dod o hyd i'r larfa yn torheulo ar y planhigion bwyd neu ar greigiau cyfagos[4]
Cafwyd lindysen llawndwf 8 Mehefin 1994 ar lwybr Drws Ardudwy, gwarchodfa natur y Rhinogydd[5]. Mae'n debyg mai chwilio am le i chwileru ydoedd.
Cyffredinol
golyguGellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd. Wedi deor o'i ŵy mae'r gwladwr Cymreig yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Cofnodion amrywiol
golygu- Pori ar y teim yng Ngwm Idwal heddiw [21/5/2023] . 'Di methu canfod be ydi o ar y we, ond mi fydd na rhywun yma’n gwybod ma siwr! "Dim Enw" [3]
- Ashworths rustic - lindysun ar lwybr Drws Ardudwy gwarchodfa y Rhinogydd (efo Jonathan Neale) 8/9/1964 [4]
- PENWYTHNOS 'ASHWORTH'S RUSTIC' YM MHENSYCHNANT
Dydd Sadwrn 9fed - Dydd Sul 10fed Gorffennaf [2022]. Nos Sadwrn fydda i'n rhoi’r trapiau gwyfynod allan ar y mynydd yn y gobaith o ddal Weaver's Wave ac Ashworth's Rustic. Yng Nghymraeg, cafodd Ashworth Rustic ei enwi 'Y Gwladwr Cymreig' ; a Weaver's Wave ydy Ton Gwynedd . Mae'r enwau hyn yn tystio i'r ffaith bod y ddwy rywogaeth hon yn unigryw i fynyddoedd Eryri a Gogledd Cymru, yn digwydd yn unman arall ym Mhrydain. Pensychnant yw'r lleoliad mwyaf adnabyddus ac mae wedi denu gwyfynwyr ers i Ton Gwynedd gael ei dal yma ym 1856. (Esgusodwch fy Nhymraeg druan. Dim ond dysgwr ydw i.)[5]
- VC49 Eryri 15/07/2020. gwladwr Cymreig (Xestia ashworthii), newydd am y flwyddyn[6]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
- ↑ FB Cymuned Llên Natur[1]
- ↑ Llyfr Maes Duncan Brown > Tywyddiadur Llên Natur[2] > FB Cymuned Llên Natur
- ↑ FB Cymuned Llên Natur [3]