Bysedd y cŵn
Planhigyn blodeuol sy'n gynhenid yn y rhan fwyaf o Ewrop yw Bysedd y cŵn (hefyd: Ffïon, 'Bys coch', 'Gwniadur Mair', 'Menyg ellyllod' neu'r 'Gleci goch' (Lladin: Digitalis purpurea).
Delwedd:Digitalis purpurea 220605.jpg, Digitalis-stora hultrum.sweden-24.jpg, Brdy-stonek zvonku.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Safle tacson | rhywogaeth |
Rhiant dacson | Digitalis |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Digitalis purpurea | |
---|---|
Digitalis purpurea (Ffïon) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Lamiales |
Teulu: | Plantaginaceae |
Genws: | Digitalis |
Rhywogaeth: | D. purpurea |
Enw deuenwol | |
Digitalis purpurea L. |
Mae iddo gorsen dal, gyda chylch o ddail o amgylch y bôn. Fel rheol, dwy flynedd yw hyd oes Bysedd y cŵn. Mae'r dail tua 10-35 cm ac mae ganddyn nhw goesau hirion, a thoreth o flew mân ar eu gwaelodion. Gan amlaf mae'r blodau'n borffor golau neu'n binc, gyda'u pennau i lawr, a smotiau ar y tu fewn, ond mae rhai melyn a gwyn i'w cael hefyd.
Ecoleg
golyguYn y gwyllt mae'r llysieuyn hwn yn un o'r planhigion cyntaf i ymsefydlu ar ôl dinoethi pridd cleiog, ar ôl codi pridd suntur i'r wyneb neu ar ôl chwistrellu rhedyn i'w lladd. Mae'n amlwg iawn am gyfnod byr ar ôl amlygu pridd mwynaidd sur.
Serch ei natur gwenwynig mae nifer o greaduriaid yn cael rhan o'u maeth, os nad y cyfan ohono, o'r planhigyn. Un sydd yn gwbl ddibynnol arno yw'r pwtyn bysedd cŵn[1].
Dyma restr (anghyflawn) o wyfynod Cymru sydd yn ddibynnol (D), rhannol ddibynnol (R) neu'n bwyta'n anfynych (A) rannau o blanhigion bysedd y cŵn:[2]
- Pwtyn bysedd y cŵn Eupithecia pulchellata (D)
- Britheg y waun Melitaea athalia (A)
(ei brif fwyd yw'r clefryn sy'n drwm o sylweddau eilradd y gall ddwyn i greu amddiffyniad tocsig neu ddiflas i ymosodwyr - mae ei ddefnydd anfynych o Digitalis yn cryfhau'r ddamcaniaeth hon). - Clustwyfyn oren Gortyna flavago (R)
Ffenoleg
golyguYn ôl cofnodion Tywyddiadur Llên Natur mae bysedd y cŵn yn dechrau dod i'w blodau yn ail hanner mis Mai ac yn cyrraedd eu hanterth ynghanol Mehefin. Erbyn diwedd Gorffennaf nid ydynt ond coesynnau o godau had ac ambell flodyn yn crogi'n flêr ar ei frig.
Mae coesynnau blodau bysedd y cŵn yn fesur bras o ddatblygiad y tymor - po fwyaf o godau had a pho leied o flodau i fyny'r goes, po belled ymlaen fo'r tymor. Bu'r hadau ar 29 Mehefin 2011 yng Nghoedydd Aber (Abergwyngregyn) yn cyrraedd tua hanner ffordd i fyny'r goes. Dim ond rhyw dwffyn o flodau ar flaen y goes oedd ar ôl ar fysedd cŵn pentref Titchwell (Norfolk) yr wythnos gynt. Roedd cnwd bysedd cochion 2011 yn ardal Aber yn arbennig[3]
Cynefin
golyguMae Ellis[4] yn disgrifio ei gynefin yng Nghymru fel twyni tywod, tir ymylol, gwrychoedd a drysni, glaswelltir, rhosdir a chors, gwlyptiroedd, chwareli, muriau a hwynebau craig, tir gwastraff, rheilffyrdd a choedlannau. Roedd yn bresennol ymhob un ond 6 sgwâr 10 km.
Enwau
golyguMae'n debyg mai bysedd y cŵn yw un o'r planhigion sydd â'r mwyaf o enwau o unrhyw blanhigyn, rhwng y gwahanol ieithoedd, yn y fflora Brydeinig[angen ffynhonnell]. Dyma rai enwau Cymraeg: bys coch, bysedd cochion, bysedd y cŵn, catrish y cŵn, menyg ellyllon, gwniadur Mair, dail crachod (y dail yn unig), ffiol y ffridd, ffion y ffridd, Clatsh y Cŵn, Cleci Coch, Dail ffion, Dail llwynog, Dail bysedd cochion, Dail crach, Ffiol y ffridd, Ffion ffrith, Ffuon cochaf, Llwyn y tewlaeth, Maneg y forwyn.
Foxglove yw'r prif enw yn Saesneg. Yn ôl An Englishman's Flora (Grigson) ceir llawer o enwau eraill. Tarddiad fox(glove) yw folks'(glove) hy. menyg y tylwyth teg[5].
Bathwyd Digitalis, yn yr enw gwyddonol Digitalis purpurea gan Leanard Fuchs yn De Historia Stirpium 1542, gan efelychu enwau Almaeneg.
Enw Lladin Digitalis purpurea: bathwyd digitalis gan Leonard Fuchs yn De Historia Stirpium, 1542, yn efelychu enwau Almaeneg[6], sef Fingerhut o digitus "bys".
Enwau eraill (detholiad byr) Cymraeg : Bys coch, Bysedd cochion, Bysedd y can, Clay (neu: Catrish) y cŵn, Menyg ellyllon, Gwniadur Mair, Dail crachod (y planhigyn neu'r dail yn unig), Ffiol y ffridd, (Dail) Ffion y ffridd.
Saesneg : Foxglove a channoedd o enwau tafodieithol yn cynnwys Dog's fingers 'bysedd y cwn'[7]
Blodyn samon yw enw pysgotwyr “samon” Caernarfon ar fysedd cŵn, oherwydd ei fod yn goch fel eog mae’n debyg.[8]
Llydaweg: Brulu, (Herbarum vemaculi, Franch Duros).
Gwyddeleg: Canol: Sian (Geiriadur Prifysgol Cymru o dan y gair 'ffion') Ffrangeg : Doigtier, Gant de Bergere, Gants de Notre Dame 'Menyg Mair' (Les Plantes et les Medicaments L. Girre).
Dosbarthiad tafodieithol yr enwau Cymraeg
golyguMae tudalen o The Linguistic Geography of Wales 1972 [9] yn rhoi dosbarthiad daearyddol yr enwau tafodieithol. Cafwyd gwybodaeth diweddarach ym 1987 wrth i Gymdeithas Edward Llwyd fynd ati i holi pobl ar faes Eisteddfod Porthmadog[10].
Gwerth ei nodi yw'r gwahaniaeth sylweddol rhwng y ddwy astudiaeth. Cyflawnwyd y gwaith cynharach yn y '50au a'r 60au a phryd hynny gwelwyd bod yr enw 'Bysedd y cŵn' bron yn gyfyngedig i'r gogledd o linell yn cysylltu Dolgellau a'r Drenewydd. 'Bysedd cochon' oedd yn fwyaf cyffredin i'r gogledd o'r linell honno.
Yn ôl yr atebion a gafwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Madog 1987, roedd 78% o'r 70 o atebion i'r gogledd o Ddolgellau - Drenewydd yn 'Fysedd y cŵn' gyda 'Bysedd cochion/ Bys coch' yn gyfyngedig bellach i Ddyffryn Conwy, Llŷn, gogledd Arfon a Môn.
Mae'n debygol mai'r hyn oedd i gyfri am y newid rhwng 1972 ac 1987, oedd y symud tafodieithol neu'r dulliau samplo.
Sylw ar berthynas a tharddiad rhai enwau
golyguMae perthynas amlwg rhwng enwau nifer o ieithoedd, ond nid yw hynny'n annisgwyl, gan y gellid bod wedi gweld yr un peth gan wahanol bobloedd yn annibynnol i'w gilydd. Mae'r enw deheuol 'Clatj y cŵn' yn egluro ei hun (o ran ei elfen gyntaf) yn yr arferion plant a nodir isod o wneud "clatj" neu 'glec' gyda'r blodyn. Mae ôl-ddodiad y cŵn bob amser yn dynodi rhywbeth israddol, gwaelach, (fel y mae march yn dynodi rhywbeth mawr a'r gair mewn Gwyddeleg a Ffrangeg yn dynodi rhywbeth estron).
Enw traddodiadol y llawysgrifau Cymraeg (1400 — 1700) yw Ffiol y ffridd. Ceir amrywiadau fel Dail y ffion ffrwyth arno. Tybir mai arferiad gwlad efallai sydd wedi llurgunio ar brydiau: ffion i ffiol a ffridd i ffrwyth. Golyga 'ffion' 'rosyn' neu liw rhosyn, ac mae gair cytras yng Ngwyddeleg Canol sian yn cael ei ddefnyddio ar y planhigyn hwn. Felly 'rhosyn (neu liw rhosyn) y ffridd' fyddai ystyr tebygol Ffion y ffridd. Nodir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru gytrasau eraill gan gynnwys Hen Lydaweg fionauc, glos ar y Lladin rosarium.
Noder hefyd fod yr enw Llydaweg brulu yn gytras a'r Gymraeg briallu (cymharer â'r Lladin: prima rosa 'rhosyn cyntaf')
Enw person a lle
golyguDefnyddir Ffion yn gyffredin o'r 20g ymlaen fel enw merch. Ond 'rhosyn' ydyw ystyr cychwynnol y gair. Ymestyniad arno yw un o enwau'r planhigyn hwn. (Tybia Angharad Tomos yn ei hunangofiant Cnonyn Aflonydd mai ei modryb oedd y gyntaf i gael yr enw hwn). Ceir enw tyddyn yn Llanbedrog a allai fod yn tarddu o'r enw 'Bys Coch'.
Perthynas â phobl
golyguLlen gwerin
golyguArferiad yng Nghymru yn ôl The Englishman's Flora gan Geoffery Grigson oedd gosod croesau ar gerrig llawr i gadw'r tylwyth teg draw. Yn Iwerddon defnyddid diferion o'r planhigyn i warchod plant rhag y tylwyth teg [11].
Fe gysylltir bysedd y cwn ag anniffuantrwydd yn y gyfrol Language of Flowers[12]
Arferion plant
golyguEnghreifftiau a gasglwyd gan brosiect Llên y Llysiau (Cymdeithas Edward Llwyd): gosod blodau ar flaenau'r bysedd i wneud ewinedd mawr cochion; dal cacwn yn y blodyn i'w wylltio; defnyddio'r coesau fel cleddyfau wrth chwarae; taro blodyn caeedig ar gledr y llaw i wneud clec neu wasgu dau ben blodyn aeddfed rhwng bysedd y ddwy law i greu swigan neu boethell, a'i glecio neu glatsio[13]. Mae'r chwarae clatsio yn gyfarwydd i Lydawyr hefyd ac mae ymadrodd difrïol ganddynt i wfftio rhywun hurt: Kas da stracal brulu war Menez Arez[14] (Dos i glatsio bysedd cŵn ar Mynydd Aret: cyffelyb i "dos i ganu/grafu" yng ngogledd Cymru).
Mae’r dull o ‘glatshio’ yn amrywio o le i le yng Nghymru (ac o bosib rhwng y gwledydd?). Mae Bryan Jones (Llangamarch) yn awgrymu bod y dull o bopian y blodau ceg agored, trwy wasgu’r ddau ben, yn gyfarwydd i blant y de yn ogystal â Llydaw ond efallai mai popian ffloredau caeedig anaeddfed ar gledr y llaw yw’r dull mewn ardaloedd eraill (yn y gogledd?). Does dim data hyd yma hyd y gwyddys i gadarnhau.[15]
Cyfeiriadau llenyddol
golyguNoda Grigson[16] gyfeiriad at chwedl Culhwch ac Olwen. Dywed mai yn wahanol i'r hyn a wnai beirdd Lloegr o ddisgrifio gruddiau geneth fel rhosyn, i feirdd a chyfarwyddiaid Cymru gymharu bochau Olwen to the foxgloves of their upland country (tudalen 326). "Oed kochach y deu rudd nor fion" — 'Oedd cochach ei dau rudd na'r ffion' [17]. Ond er perted y rhamant yma, ffion yn ystyr gyntaf yr enw sydd yma sef 'rhosyn'.
Meddyginiaethol a chemegol
golyguMae'r arferion a gyfeirir atynt yn yr enw 'Dail crachod' yn cael ei egluro yn: "Fox Glove, neu Fenyg y llwynog, neu Ddil [sic] bysedd cochion...mae'r dail hyn yn glanhau briwiau yn raddol gyda'r tynerwch mwyaf... A myfi a fentraf ddywedaf wrthych nad oes moi gwell i'w gwneud yn eli gyda bloneg i wella crach mewn pen."[18]
Yn niwedd y 18g aeth William Withering ati i asesu ei werth yn wyddonol, a chanfod fod y planhigyn yn un grymus ei effaith ar y galon.
Cesglid y dail yn ystod yr ail ryfel byd, a'u sychu, yn aml dan drefn Sefydliad y Merched. Defnyddid llofft uwchben becws yn Nhrefaldwyn i sychu'r dail[19].
Elfennau gweithredol y llysieuyn yw digitocsin a gitocsin sy'n sail i wahanol gyffuriau a all adfywio'r galon. Maent yn gweithio trwy wella gallu cyhyrau'r galon i dynhau ac ymlacio gan gryfhau grym y curiadau. Gallant hefyd arafu curiad y galon a gwella llif y gwaed trwy'r gwythiennau. Gall dognau o'r cyffur wenwyno o'u rhoi heb ddigon o saib rhyngddynt, gan beri anhawster treulio, diffygion ar y golwg a thrafferthion calon, a allai ladd[20].
Honnir i Vincent Van Gogh baentio'r eurgylchau a'r lliw melyn mewn paentiadau, megis lluniau o'i feddyg, ar ôl cymryd y planhigyn fel meddyginiaeth[21].
Ni chaiff ei fwyta gan anifeiliaid fel arfer ond o'i fwyta, gall yr anifail ddatblygu chwant amdano. Fe erys gwenwyn yn y planhigyn ar ôl ei sychu neu ei ferwi, a gall gwair sydd â digitalis ynddo wenwyno anifeiliaid. Gellir ei drin a gwenwyn arall atropin (Atropa bella-dona)[21]
Fe'i tyfir fel ffynhonnell digitalis ac mae'n cael ei gydnabod fel ysgogydd cardiag ers 1785 (clywodd William Withering[22] gan wladwraig ei fod yn dda at glwy'r dŵr neu dropsi) ond ni chafodd ei ddadansoddi'n gemegol tan 1933. Cymerwyd foxglove tea ar un adeg i drin anwyd a thwymyn trwy yfed drachtiau mawr i achosi medd-dod. Arferid casglu'r hadau mân gan blant yn ne Lloegr at War Effort yr Ail Ryfel Byd, gan fod y cemegyn lioleod yn eu cyfansoddiad (cemegyn gwrth-drychfilod a ddefnyddid ers amser maith yn Fforest Dena at y perwyl hwn ar hyd waliau tai)[23]
- Meddyginiaethau a gasglwyd gan Anne Elizabeth Williams (Amgueddfa Werin Cymru)[24]
Byrdwn y cofnodion am fysedd y cwn a gasglodd AEW ar gyfer y gyfrol hon yw mai at ddefnydd allanol y cyfeiriant gan amlaf, ac at anhwylderau'r croen yn bennaf. Daw'r dystiolaeth yn fwy o'r de nag o'r gogledd,
- At y Dolur Gwddf a Chwinsi
Gwneid powltis o ddail bysedd y cŵn wedi'u twymo gydag iraid mewn popty poeth; dywedid bod hwn yn 'giwar' ac na cheid yr anhwylder drachefn ar ôl ei ddefnyddio (Tyst llafar: Richard Griffiths Thomas, Llangynwyd)
- At y Llwybr Treuliad
Defnydd allanol a wneid fel rheol o'r planhigyn gwenwynig bysedd y cwn ond cafwyd ambell eithriad diddorol. Gwelodd gwr o Lanfachreth, Meirionnydd, ei ddefnyddio mewn dos ar gyfer y dwr du ar wartheg, a gwyddys fod gwr o'r Bontnewydd yn Arfon wedi bwyta peth o'r dail pan oedd yn dioddef yn ddrwg o gamdreuliad, fel y tystia llythyr[24] [gan nai William Edward Griffith yn 1958-9].
I drin clwy'r marchogion (peils), yn ôl tystiolaeth o Ddinas Mawddwy, roedd dail bysedd y cŵn wedi'u malu'n fân a'u rhoi'n blastr ar y man yn gallu dod ag esmwythâd, neu gellid rhoi dwr berwedig arnynt yn y pot golch ac eistedd arno er mwyn i'r ager poeth dreiddio i'r man dolurus (Llawysgrif AWC 1922, Mrs Hannah Davies, Llandysul].
- At Afiechydon y Croen
Y Ddrywinen, afiechyd ffyngaidd ar y croen, (yn y gogledd drywingan, drwinan, trywingan, crwn ym Môn, a darwden, tarwden yn y de): gwneid trwyth o rai planhigion gan ddefnyddio'r dwr i olchi'r ddrywinen, er enghraifft, trwyth o wraidd cacimwci neu gyngaw, trwyth dail bysedd y cwn, neu risgl helygen lwyd. (Ffurf lenyddol yr enw drywinen yw 'derwreinyn' neu 'derwreinen'; cafodd ei ffurfio o'r elfennau der + gwreinyn, gwreinen, o'r enw lluosog gwraint, cynrhon)
Gwaredu pendduyn: Gwneid powltis â dail bysedd y cŵn a bloneg yn Nyffryn Ceidrych, Sir Gaerfyrddin, (Tap AWC 6746: David Gwyndaf Davies & Miss Elizabeth Mary Davies, Llanymddyfri), ond cymysgu'r dail, ar ôl eu malu, a sebon golchi oedd yr arfer ym Mhont-rhyd-y-fen (Tystiolaeth lafar: Mrs Nellie Jarvis, Pont-Rhyd-y-Fen).
- Ewinor, Bystwn, Ffelwm, Gwlithen
Eli wedi'i wneud o ddail ceiniog, dail clatsh y cŵn (bysedd y cŵn) a bloneg a ddefnyddiodd Mrs Leisa Francis, Crymych, pan gafodd 'wlithen' ["Math o chwydd neu gasgliad llidus ar fys, fel rheol oddeutu’r ewin neu fôn yr ewin, ewinor, ffelwm, bystwn; ploryn neu dosyn bychan llidus ar amrant, llyfrithen, llefelyn." GPC] eithaf poenus yn ferch ifanc. Fe'i paratowyd drwy friwio'r llysiau'n fân ar ddarn o bren ac yna ffustio'r dail a'r bloneg â morthwyl bach pren nes eu bod yn eli.
- Defaid
Gwnâi gwr o Tufton [Penfro] eli gyda 'clatsh y cŵn', sef bysedd y cŵn, a hen floneg, yn ôl tystiolaeth ei ferch... (Tap AWC 6257: Mrs Margaret Mary George, Cas-Mael)
- Briwiau a Chlwyfau
Cafwyd tystiolaeth o Faldwyn am eli dail ysgaw a dail bysedd y cwn [at drin briw].... (Tap AWC 5922: Mrs Margaret (Magi) Jones, Hermon, Llanfachraeth)
Gynghorion eraill [at drin draenen] oedd... gwneud powltis dail bysedd y cwn a bloneg (Llanymddyfri)
Statws
golyguEnwau lleoedd
golyguNid oes llawer o enwau lleoedd yn cyfeirio at Fysedd y cŵn. Yng Nghronfa Melville Richards ceir Cwm Ffionos, enw y gellir ei briodoli i fân Digitalis purpurea neu fân rosod gwyllt. Ei ystyr yw cwm y ffion bach, enw yng Ngheredigion. Ar ei ffurf "ffuon" mae yna Bant y Ffuon yn Sir y Fflint.
Oriel
golygu-
Ffoto o fysedd y cŵn
-
Ffoto o fysedd y cŵn
-
Ffoto o fysedd y cŵn
-
Ffoto o fysedd y cŵn
-
Ffoto o fysedd y cŵn
-
Ffoto o fysedd y cŵn
-
Ffoto o fysedd y cŵn
-
Ffoto o fysedd y cŵn
-
Ffoto o fysedd y cŵn
-
Ffoto o fysedd y cŵn
-
Ffoto o fysedd y cŵn
-
Ffoto o fysedd y cŵn
Cyfeiriadau
golygu- ↑ llennatur.com; adalwyd 14 Mai 2017.
- ↑ Heath, J. (1976, 1) The Moths and Butterflies of Great Britain and Ireland Blackwell Curwen
- ↑ http://www.llennatur.com
- ↑ Ellis, G. (1983) Flowering Plants of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru
- ↑ Mabberley's Plant Book
- ↑ Oxford English Dictionary
- ↑ The Englishman's Flora, Geoffery Grigson
- ↑ Tony Lovell (drwy law Ifor Williams) ym Mwletin Llên Natur rhifyn 53
- ↑ Linguistic Geography of Wales (1972). A.R. Thomas, Gwasg Prifysgol Cymru.
- ↑ Y Naturiaethwr 19, Ionawr 1988, Twm Elias, tudalennau 19-20
- ↑ A Dictionary of Plant Lore, Roy Vickery
- ↑ Mabberley, DJ (2008) Mabberley's Plant Book: A portable dictionary of plants, their classification and uses, CUP
- ↑ http://www.llennatur.com/oneadmin/_files/photogallery/8c628_clatchycwn3.jpg
- ↑ Williams, R (1990) Geiriadur Bach Llydaweg - Cymraeg (Rhydychen ac Aberystwyth)
- ↑ Bwletin Llên Natur rhifyn 65
- ↑ xxxx
- ↑ Llyfr Gwyn Rhydderch, J,Gwenogvryn Evans (gol.) tudalen 238)
- ↑ Herbal neu Lysieu-lyfr wedi eu casglu o waith N. Culpepper, DT Jones 1816
- ↑ Flora Britanica, Richard Mabey
- ↑ Les Plantes et les Medicaments, L. Girre
- ↑ 21.0 21.1 Poisonous Plants in Britain and their effects on Animals and Man, M. Cooper ac A Johnson
- ↑ https://en.m.wikipedia.org/wiki/William_Withering
- ↑ http://trove.nla.gov.au/work/8029248?selectedversion=NBD43398962%7CMabberley, DJ (2008)
- ↑ 24.0 24.1 Williams, A.E. (2017) Meddyginiaethau Gwerin Cymru Y Lolfa