Gwlân
Ffibr a wneir o flew cyrliog defaid, geifr, ac aelodau eraill o deulu'r Caprinae yw gwlân.
Hanes
golyguHyd at yr 20g, y diwydiant gwlân oedd un o ddiwydiannau pwysicaf Cymru.[1] Yn yr Oesoedd Canol, roedd y diwydiant yn hynod o bwysig yn Sir Benfro, lle roedd y trigolion yn nyddu edafedd ac yn gweu brethynnau yn eu cartrefi, iddynt hwy eu hunain, gan werthu unrhyw gynnyrch oedd ganddynt dros ben mewn ffair. Weithiau arferid allforio'r cynnyrch i Fryste. Yno, roedd y diwydianwyr yn ei ail-allforio i Wasgwyn, Llydaw, Portiwgal a Gwlad yr Iâ, a gwnaed elw mawr. Defnyddid y brethyn ar gyfer (a oedd o ansawdd eithaf gwael) ar gyfer gwaith pob dydd yn hytrach nag i edrych yn dda.
Yn y 16g symudodd canolbwynt y diwydiant o Sir Benfro i Sir Feirionnydd, Sir Ddinbych a Sir Drefaldwyn.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwyddoniadur Cymru; Gwag Prifysgol Cymru; tud 409; cyhoeddwyd 2008; adalwyd 06 Hydref 2012.