Gwlff Persia
Mae Gwlff Persia (Arabeg: الخليج الفارسى; Perseg: خلیج فارس) Y Gwlff[1] yn estyniad neu gwlff o Gefnfor India sy'n gwahanu Iran oddi y gwledydd Arabaidd megis Sawdi Arabia. Gwledydd eraill sydd ag arfordir ar y Gwlff yw Irac, Ciwait, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Qatar ac Oman, tra mae Bahrein yn ynys yn y Gwlff Persia. Oherwydd fod rhan helaeth o olew y byd yn dod o'r ardal yma, mae o bwysigrwydd strategol eithriadol ac mae nifer o ryfeloedd wedi eu hymladd yma. Heblaw olew, mae Gwlff Persia yn nodedig am ei gyfoeth mewn pysgod a pherlau, ond mae wedi ei ddifrodi i raddau gan y diwydiant olew yn y blynyddoedd diwethaf.
Math | môr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Cefnfor India |
Gwlad | Sawdi Arabia, Iran, Oman, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Catar, Bahrain, Coweit, Irac |
Arwynebedd | 251,000 km² |
Cyfesurynnau | 26°N 52°E |
Hyd | 989 cilometr |
Mae arwynebedd y Gwlff tua 233,000 km². Ar yr ochr ddwyreiniol mae Culfor Hormuz yn ei gysylltu a Gwlff Oman. Ar yr ochr orllewinol, mae'r Shatt al-Arab, lle mae Afon Ewffrates ac Afon Tigris yn cyrraedd y môr. Nid yw'n ddyfn iawn, tua 90 m. yn y man dyfnaf a thua 50 m. ar gyfartaledd.
Er bod yr enw "Gwlff Persia" yn cael ei gofnodi cyn belled yn ôl a'r awduron clasurol, nid yw llawer o'r gwledydd Arabaidd o gwmpas y Gwlff yn ei dderbyn, gan ei fod yn awgrymu fod gan Iran hawl arno. Mae nifer o'r gwledydd hyn yn defnyddio Gwlff Persian (Arabeg: الخلیج الپارسیان al-khalīj al-ʿfars) amdano.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 95.