Gwrthryfel y Twareg (2012)
Gwrthdaro rhwng y bobl Twareg a llywodraeth Mali yw Gwrthryfel y Twareg, y gwrthryfel ymwahanol diweddaraf gan y bobl hon yn y Sahara. Cychwynnodd yn Ionawr 2012 dan arweiniad y Mudiad Cenedlaethol dros Ryddid Azawad (MNLA), mudiad seciwlar[1] sydd â'r nod o greu gwladwriaeth i'r Twareg yn ardal Azawad. Mae nifer o aelodau'r MNLA yn gyn-filwyr o'r Cyngor Trawsnewidiol Cenedlaethol a'r fyddin Libiaidd a frwydrodd yn Rhyfel Cartref Libia, a datgana'r gwrthryfelwyr eu bod wedi eu hysbrydoli gan y Gwanwyn Arabaidd.[2] Ymunodd y mudiad Islamiaidd Ansar Dine â'r gwrthryfel, ond mae anghytundeb rhyngddynt a'r MNLA.
Enghraifft o'r canlynol | coup d'état, gwrthryfel |
---|---|
Dyddiad | 2012 |
Rhan o | Mali War |
Dechreuwyd | 17 Ionawr 2012 |
Lleoliad | Azawad |
Ar 22 Mawrth cafodd yr Arlywydd Amadou Toumani Touré ei ddisodli mewn coup d'état gan fyddin Mali oedd yn feirniadol o'i ymgyrch. Cipiodd y gwrthryfelwyr dinasoedd Kidal, Gao a Tombouctou. Ar 5 Ebrill, wedi iddynt gipio Douentza, datganodd yr MNLA y bydd eu hymgyrch ymosodol yn dod i ben. Diwrnod yn hwyrach, datganodd hwy annibyniaeth Azawad ar Mali, gan obeithio ennill cydnabyddiaeth ryngwladol. Anwybyddwyd neu gondemniwyd y datganiad gan yr Undeb Affricanaidd, yr Undeb Ewropeaidd, a'r Unol Daleithiau.[3] Gwrthodwyd annibyniaeth hefyd gan Ansar Dine, a bwysleisiodd yr angen i weithredu sharia yn Azawad.[4] Ar yr un ddiwrnod datganodd ECOWAS y byddent yn cadw'r heddwch os cytunwyd ar gadoediad rhwng Mali a'r gwrthryfelwyr, ond os na yna byddent yn cyd-ymladd â lluoedd Mali yn erbyn y Twareg.[5]
Yn Ebrill, rhybuddiodd Amnest Rhyngwladol bod Mali ar fin "argyfwng dyngargol" wedi i ragor na 200,000 o bobl ffoi o ogledd y wlad ers dechrau'r gwrthryfel.[6] Rhybudiodd UNESCO bod safleoedd treftadaeth Tombouctou dan fygythiad.[7] Wedi diwedd y brwydro â lluoedd Mali, ni lwyddodd y cenedlaetholwyr a'r Islamyddion i gymodi eu gweledigaethau am y genedl newydd.[8] Ar 27 Mehefin, brwydrodd Islamyddion y Mudiad dros Undod a Jihad yng Ngorllewin Affrica yn erbyn yr MNLA yn Gao, gan gipio'r ddinas.[9]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwrthryfelwyr Tuareg yn datgan annibyniaeth. Golwg360 (6 Ebrill 2012). Adalwyd ar 8 Ebrill 2012.
- ↑ (Saesneg) Mali's Rebels Declare a New State in North. Wall Street Journal (6 Ebrill 2012).
- ↑ (Saesneg) Mali Tuareg rebels' call on independence rejected. BBC (6 Ebrill 2012). Adalwyd ar 8 Ebrill 2012.
- ↑ (Saesneg) Ansar Dine supports "Islam and Sharia" in Mali. AGI.it (6 Ebrill 2012). Adalwyd ar 8 Ebrill 2012.
- ↑ (Saesneg) Mali junta says power transfer 'within days'. Al Jazeera (7 Ebrill 2012). Adalwyd ar 8 Ebrill 2012.
- ↑ (Saesneg) Mali: 'On brink of humanitarian disaster' warns Amnesty. Amnest Rhyngwladol (5 Ebrill 2012). Adalwyd ar 8 Ebrill 2012.
- ↑ (Saesneg) Mali: Timbuktu heritage may be threatened, Unesco says. BBC (3 Ebrill 2012). Adalwyd ar 8 Ebrill 2012.
- ↑ (Saesneg) Mali: Islamists seize Gao from Tuareg rebels. BBC (28 Mehefin 2012). Adalwyd ar 2 Gorffennaf 2012.
- ↑ (Saesneg) Serge Daniel (27 Mehefin 2012). Islamists seize north Mali town, at least 21 dead in clashes. Agence France-Presse. Google News. Adalwyd ar 2 Gorffennaf 2012.
Dolenni allanol
golygu- (Ffrangeg) Gwefan swyddogol yr MNLA Archifwyd 2013-04-14 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Cefndir Gwrthryfel y Twareg ar wefan Al Jazeera