Rhyfel Cartref Libia
Gwrthdaro arfog cyfredol yn Libia yn erbyn llywodraeth Muammar al-Gaddafi oedd Rhyfel Cartref Libia (Arabeg: الثورة الليبية) gyda phrotestwyr yn galw am arweinyddiaeth newydd ac etholiadau democrataidd. Dechreuodd y gwrthryfel fel cyfres o brotestiadau a gwrthdrawiadau ar 15 Chwefror 2011. O fewn wythnos, ehangodd y gwrthryfel a brwydrodd Gaddafi i gadw rheolaeth dros y wlad. Ymatebodd Gaddafi gyda grym milwrol a mesurau eraill megis sensoriaeth ac ataliadau ar gyfathrebu. Cyhuddwyd ef o recriwtio hurfilwyr tramor yn sgil gwrthgilio ymhlith ei luoedd. Cynigodd Gaddafi i gynnal trafodaethau ag arweinwyr y gwrthwynebiad trwy gynrychiolydd, ond gwrthododd y gwrthryfelwyr i drafod â Gaddafi a galwyd arno i ymddiswyddo a gadael y wlad.

Ehangodd y gwrthryfel i wrthdaro arfog, gyda gwrthryfelwyr yn sefydlu clymblaid o'r enw'r Cyngor Trawsnewidiol Cenedlaethol a seilir yn Benghazi. Rhybuddiodd y Llys Troseddol Rhyngwladol y gall Gaddafi ac aelodau o'i lywodraeth wedi cymryd rhan mewn troseddau yn erbyn dynoliaeth. Pasiodd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig benderfyniad yn rhewi asedau Gaddafi a deg aelod o'i gylch mewnol, a chyfyngu ar eu gallu i deithio. Ar ddechrau Mawrth ail-gipiodd lluoedd Gaddafi nifer o ddinasoedd arfordirol yn nwyrain Libia cyn ymosod ar Benghazi. Awdurdodwyd gwaharddiad hedfan dros Libia gan benderfyniad arall, i'w weithredu gan aelod-wladwriaethau'r CU. Datganodd llywodraeth Gaddafi cadoediad, ond methodd i'w gadw. Dechreuodd clymblaid o wladwriaethau i weithredu'r gwaharddiad hedfan ar 19 Mawrth trwy analluogi amddiffyniadau awyr Gaddafi.
Ym mis Awst cychwynnodd y gwrthryfelwyr ymgyrch ymosodol ar hyd arfordir Libia, gan gipio'r brifddinas Tripoli. Ar 16 Medi cydnabuwyd y Cyngor Trawsnewidiol Cenedlaethol gan y Cenhedloedd Unedig fel cynrychiolydd Libia yn lle llywodraeth Gaddafi. Cafodd Gaddafi ei ddal a'i ladd yn ei ddinas enedigol Sirt ar 20 Hydref, a datganodd y Cyngor Trawsnewidiol Cenedlaethol ddiwedd y rhyfel ar 23 Hydref 2011.