Priddeg
Fel yr awgryma'r gair, yr astudiaeth o bridd yn ei amgylchedd yw priddeg (Saesneg: pedology).[1] Mae'n un o ddwy gangen o 'wyddoniaeth pridd', yr ail yw edaffoleg, sef effaith y pridd ar blanhigion, ffwng ac organebau byw eraill.
Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth academaidd |
---|---|
Math | gwyddor pridd |
Rhan o | daearyddiaeth, gwyddor pridd, priddeg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Trosolwg
golyguMae pridd yn allweddol ar gyfer bywyd: yr holl blanhigion sy'n tyfu ohono, ac anifeiliaid yn sgil hynny. Mae hefyd yn fan lle mae anifeiliaid yn tramwyo ac yn byw ac yn haen rhyngweithiol o wahanol agweddau: hinsawdd (dŵr, aer, tymheredd), bywyd o fewn y pridd (micro-organebau, planhigion, anifeiliaid), mwynau a chreigiau, a'i safle yn y tirwedd. yn ystod ei ffurfio, ac wedyn, mae proffil y pridd yn newid yn araf, yn dyfnhau ac yn datblygu nodweddion a elwir yn derfynlin (horizons), wrth iddo geisio ystâd o gydbwysedd.
Priddegwyr o nod
golygu- Olivier de Serres
- Vasily V. Dokuchaev
- Eugene W. Hilgard
- Hans Jenny
- Curtis F. Marbut
- Bernard Palissy
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ronald Amundsen. "Soil Preservation and the Future of Pedology" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-06-12. Cyrchwyd 2006-06-08.