Pieris brassicae
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Pieridae
Llwyth: Pierini
Genws: Pieris
Rhywogaeth: P. brassicae
Enw deuenwol
Pieris brassicae
(Linnaeus, 1758)
Cyfystyron
  • Papilio brassicae Linnaeus, 1758

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yn y teulu Pieridae yw gwyn mawr, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwynion mawr (-ion); yr enwau Saesneg arni yw Large White neu Cabbage White, a'r enw gwyddonol yw Pieris brassicae.[1][2] Mae lled ei adenydd yn 5 i 6.5 

Bwyd a thymor golygu

Y lindys yn bwyta amryfal ‘’Cruciferae’’, yn enwedig ‘’Brassica’’ a ‘’Tropaeolum’’. Hedfan yn Ebrill/Mai ac wedyn Gorffennaf/Awst [3].

Disgrifiad golygu

Statws golygu

Cyffredin yng Nghymru ac ym Mhrydain. Glöyn mudol enwog, mae ei niferoedd ym Mhrydain yn ddibynol iawn ar fewnlifiad llwyddiannus o’r cyfandir.[3]. Dyma dystiolaeth cadarn o Gymru am fewnfudo’r rhywogaeth hon yn yr anecdót hwn yng ngolofn TG Walker yn Y Cymro (1947) [4]:

“Y GLOYNNOD byw a adwaenir yn Saesneg wrth yr enw Cabbage White sydd dan sylw yn y llythyr a ganlyn:— ‘Ni wn i ar y ddaear a fedraf wneud i neb goelio y peth yma; ond hwyrach o ran hynny ei fod yn beth digon cyffredin mewn rhai mannau. Er bod hyn wedi digwydd tua Mehefin neu Orffennaf 1947, y mae`r olygfa yn dal hefo mi o hyd, ac yr wyf am gael gwared o`r dyfalu trwy ofyn i chwi am eglurhad.

Noson hafaidd ydoedd, tua chwech o`r gloch, minnau mewn mangre unig ar y mynydd rhwng Penmachno a Blaenau Ffestiniog, rhyw 1500 troedfedd uwchlaw`r mor. Eisteddwn mewn edmygedd o`r unigrwydd a`r tawelwch, a dim byd i dorri ar y tawelwch ond bref ambell ddafad. Yna, sylwais ar loywod byw, y brid hwnnw svdd yn gymaint gelyn i`r garddwr a`i gabaits, y rhai gwynion. Sylwais yn fwy manwl; ac yņ wir, nid oedd modd peidio a sylwi erbyn hyn, oherwydd daethant fel cawod o blu eira, hwythau oll yn hedfan o`r un cyfeiriad ac yn mynd i`r un cyfeiriad. Barnaf mai o`r gogledd a thua`r dehau y cadwasant eu cwrs. Yr oedd yn ddiddorol i`w gwylio. Pan oedd un gawod ohonynt yn teneuo a bron cilio, fe ddeuai mintai, arall i`r golwg. Gwelais gannoedd ar filoedd yn pasio heibio yn ystod rhyw ddwy awr o amser. Ni welais yr un ohonynt yn disgyn ar y grug nac ar y ddaear o gwbl. Yr oedd gennyf wydrau prismatig nerthol, ac yr oeddwn yn dewis un fintai a`i dilyn cyn iddi fy nghyrraedd ac yna ei dilyn ar ol iddi fynd heibio imi. Y rhvfeddod mawr mi ydoedd gymaint eu nifer, y naill fintai yn dilyn y llall,a phob mintai oddeutu chwarter milltir o led, a chreaduriaid mor wantan a`r rhain yn gallu dal ar yr adain am gymaint pellter, y pellter yr oeddwn i yn medru eu dilyn trwy`r gwydrau, achos ni welais yr un ohonynt yn codi oddi ar y ddaear nac yn disgyn ychwaith. Hwyrach eto ei bod yn anodd credu`r stori. Beth bynnag am hynny. mae`n berffaith wir; ac am ei bod yn wir, y mae fel problem ar fy meddwl ers dros dair blynedd yn disgwyl am esboniad’.”

Tiriogaeth golygu

 
Cynefin y P. brassicae: Dojran, Macedonia.

Mae'r glöyn byw gwyn mawr yn gyffredin iawn drwy Ewrop, gogledd Affrica ac Asia ac i'w weld fel arfer mewn caeau, gweiriau a pharciau. Yn gymharol ddiweddar mae wedi ymsefydlu yn ne Affrica.[5][6][7] Mae'n gryf o ran ei ehediad a daw nifer i wledydd Prydain o'r cyfandir pob haf. Mae'n bosibl ei fod yn dechrau ymsefydlu Efrog Newydd ble caiff ei ystyried fel pla.

 
Gwryw o Himachal Pradesh, India

Bwyd a chylched bywyd golygu

Mae'r fenyw'n dodwy rhwng 20 - 100 o wyau ar un o blanhigion teulu'r bresych a'r ysgewyll, ac o'r herwydd mae garddwyr yn ei chasáu! Melynwyrdd ydy lliw'r siani flewog, gyda llinellau melyn arni a smotiau duon ac fel arfer mae llu ohonyn nhw'n tyrru at ei gilydd i wledda ar y dail. Mae'n bosib mai cemegolion yn eu cyrff sy'n rhoi blas drwg yng ngheg ei helwyr e.e. y wenynen Apanteles glomeratus; mathau o glucosinolates (olew mwstad) ydyn nhw, a wneir yn ei chrombil, er bod rhai naturiaethwyr bellach yn credu nad yw hynny'n wir.

Melynwyrdd, hefyd, ydy lliw'r chwiler, gyda smotiau duon arni, ac fel chwiler mae'n treulio'r gaeaf yn morffio'n araf ac yn gaeafgysgu. Ceir dwy genhedlaeth y flwyddyn, y cyntaf ym Mai a Mehefin a'r ail yn Awst.

Mathau tebyg golygu

Mae'r glöyn byw gwyn mawr yn hynod o debyg i'r Glöyn byw gwyn bach (Pieris rapae), Pieris canidia, a'r Pieris deota.

Oriel o luniau golygu

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyn mawr yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. 3.0 3.1 Higgins, LG & Riley, ND (1970): A Field Guide to the Butterflies of Britain and Europe (Collins)
  4. Colofn TG Walker, Y Cymro (1947)
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2012-09-04.
  6. http://citebank.org/node/110870
  7. http://www.biodiversitylibrary.org/pdf3/007086600094965.pdf