Gwynfor Lloyd Griffiths

Awdur a chyn-blismon yw Gwynfor Lloyd Griffiths (ganwyd 1934).

Gwynfor Lloyd Griffiths
Ganwyd1934 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethllenor Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Mae Gwynfor yn hannu o Ben-y-groes, Gwynedd, yn wreiddiol, a bellach yn byw yn Y Rhyl. Yn blentyn symudodd gyda'i deulu i fyw i Rhosgoch ger Amlwch. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Y Carreglefn, Ysgol Rhosybol ac Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.[1]

Ymunodd a'r heddlu yn 1957 a bu'n gweithio fel heddwas yng Nghonwy, Cyffordd Llandudno, Llandudno, Y Rhyl a Phrestatyn. Ers ymddeol yn 1984 mae wedi ysgrifennu nofelau yn defnyddio ei brofiadau fel ditectif gyda'r heddlu. Mae Gwynfor hefyd yn arlunydd ac wedi darlunio'r cloriau ar ei lyfrau.[1]

Llyfryddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Nofel gyntaf cyn-blismon. (en) , Daily Post, 25 Mawrth 2015. Cyrchwyd ar 13 Mai 2016.