Athronydd Marcsaidd, beirniad llenyddol, a gwleidydd comiwnyddol o Hwngari oedd György Lukács (13 Ebrill 18854 Mehefin 1971).

György Lukács
GanwydLöwinger György Bernát Edit this on Wikidata
13 Ebrill 1885 Edit this on Wikidata
Budapest Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mehefin 1971 Edit this on Wikidata
Budapest Edit this on Wikidata
DinasyddiaethHwngari Edit this on Wikidata
AddysgDoethuriaeth Nauk mewn Athroniaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, gwleidydd, llenor, academydd, cymdeithasegydd, beirniad llenyddol, hanesydd celf, philosopher of culture, hanesydd llenyddiaeth, ysgolhaig llenyddol Edit this on Wikidata
Swyddmember of the Provisional National Assembly, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Hwngari, Minister of Public Instruction Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Nyugat Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolCommunist Party of Hungary, Hungarian Working People's Party, Hungarian Socialist Workers' Party Edit this on Wikidata
PlantFerenc Jánossy, Lajos Jánossy Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Kossuth, Gwobr Goethe, Gwobr Kossuth, Urdd y Faner Goch, Medal Jiwbili "I Goffáu 100fed Pen-blwydd Geni Vladimir Ilyich Lenin" (10 gair / words) Edit this on Wikidata

Ganed yn Budapest, Awstria-Hwngari, i deulu o Iddewon cefnog. Ymaelododd â Phlaid Gomiwnyddol Hwngari ym 1918, a gwasanaethodd yn gomisâr diwylliant ac addysg yn llywodraeth Béla Kun yng Ngweriniaeth Sofietaidd Hwngari (1919). Yn sgil cwymp Kun, symudodd Lukács i Fienna ac yno bu'n weithgar yn y mudiad tanddaearol. Golygodd y cylchgrawn Kommunismus a chyhoeddodd ei gyfrol arloesol Geschichte und Klassenbewußtsein (1923; "Hanes ac Ymwybyddiaeth o Ddosbarth"). Datblygodd Lukács syniadaeth Farcsaidd a oedd yn debycach i fydolwg athronyddol a diwylliannol nac i ddadansoddiad gwyddonol.[1]

Symudodd Lukács i Ferlin ym 1929. Aeth i'r Undeb Sofietaidd ym 1930–31 i fynychu Athrofa Marx-Engels ym Moscfa, a dychwelodd yno ym 1933 i astudio athroniaeth yn Athrofa'r Academi Rwsiaidd. Arhosodd yn yr Undeb Sofietaidd drwy gydol yr Ail Ryfel Byd, a dychwelodd i'w famwlad ym 1945. Fe'i etholwyd yn aelod o Senedd Hwngari a chafodd swydd athro estheteg ac athroniaeth ym Mhrifysgol Budapest. Lukács oedd un o brif arweinwyr Chwyldro Hwngari ym 1956 a gwasanaethodd yn weinidog diwylliant yn llywodraeth Imre Nagy. Cafodd ei arestio a'i alltudio i Rwmania am ei ran yn y chwyldro, ond rhoddwyd caniatâd iddo ddychwelyd i Hwngari ym 1957. Bu farw yn Budapest yn 86 oed.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) György Lukács. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Ebrill 2020.