Gylfingroes

rhywogaeth o adar
Gylfingroes
Loxia curvirostra

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Fringillidae
Genws: Loxia[*]
Rhywogaeth: Loxia curvirostra
Enw deuenwol
Loxia curvirostra



Dosbarthiad y rhywogaeth
Wyau
Loxia curvirostra

Mae'r Gylfin Groes (Loxia curvirostra) yn perthyn i'r teulu Fringillidae, y llinosiaid. Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, ond ambell dro mae nifer fawr ohonynt yn symud tua'r de a'r gorllewin os oes prinder bwyd yn eu cynefin arferol. Tu allan i'r tymor nythu mae'n aml yn ymgasglu'n heidiau mawr, weithiau gyda rhywogaethau gylfingroes eraill.

Caiff ei enw o'r ffaith fod dau hanner y pig yn groes, fel nad ydynt yn cyfarfod ei gilydd yn y tu blaen. Addasiad i fwydo ar gonau coed conifferaidd yw hyn. Coch yw lliw'r ceiliog fel rheol, a'r iâr a'r adar ieuanc yn wyrdd, ond mae rhywfaint o amrywiaeth.

Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yng Ngogledd America, Asia, Ewrop. Yng Nghymru mae'n aderyn gweddol hawdd ei adnabod, oherwydd dyma'r unig rywogaeth o gylfingroes sy'n nythu, ac anaml iawn y gwelir unrhyw un o'r rhywogaethau eraill. Lle ceir nifer o rywogaethau gall fod yn anodd iawn gwahaniaethu rhyngddynt, er enghraifft yn Yr Alban lle ceir Croesbig yr Alban a'r Croesbig Mawr. Gall maint y pig fod yn gymorth i'w gwahaniaethu, ac mae'r alwad ychydig yn wahanol.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn L. curvirostra, sef enw'r rhywogaeth.[1]

Teulu golygu

Mae'r gylfingroes yn perthyn i deulu'r Pincod (Lladin: Fringillidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Q777369 Carpodacus waltoni eos
 
Gylfingroes Loxia curvirostra
 
Gylfingroes adeinwyn Loxia leucoptera
 
Nico Carduelis carduelis
 
Serin sitron Carduelis citrinella
 
Tewbig pinwydd Pinicola enucleator
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  Safonwyd yr enw Gylfingroes gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.