Hanes Seland Newydd
Poblogwyd Seland Newydd yn hwyrach na'r rhan fwyaf o'r byd. Credir i bobl gyrraedd yno gyntaf o ynysoedd Polynesia rhwng 1000 a 1300, we fod peth tystiolaeth yn awgrymu y gallent fod wedi cyrraedd yno ychydig ynghynt. Y bobl yma oedd hynafiaid y Maoriaid.
Mae'n bosibl i fforwyr Sbaenig gyrraedd yr ynysoedd yn 1576, ond nid oes sicrwydd o hyn. Yn mis Rhagfyr 1642, angorodd y fforiwr Abel Janszoon Tasman o'r Iseldiroedd yn ei longau Heemskerck a Zeehaen, ger gogledd Ynys y De. Yr enw a roddodd Tasman i'r ynys oedd Staten Landt. Lladdwyd pedwar o'i wŷr gan nifer o'r Maorïaid, a hwyliodd tua'r gogledd i Tonga. Yn ddiweddarach, archwiliwyd arfordir Seland Newydd gan James Cook yn ei long Endeavour yn 1769 a 1770.
O 1790 ymlaen, dechreuodd helwyr morfilod o wahanol wledydd ymweld a'r ynysoedd yn gyson. Daeth yn drefedigaeth Brydeinig yn 1840, pan arwyddwyd Cytundeb Waitangi rhwng Prydain a phenaethiaid y Maori. Dilynwyd hyn gan fewnfudo o Ewrop, yn enwedig o Loegr, yr Alban ac Iwerddon.
Cafodd y wlad fesur o ymreolaeth yn 1852, ac yn 1867 cafodd y Maoriaid hawl i seddau arbennig yn y Senedd.