Hanes Swydd Gaergrawnt

O amgylch y Ffendiroedd yn Swydd Gaergrawnt mae olion o lwybrau ac aneddiadau o Oes Newydd y Cerrig. Yn yr oesoedd cynhanesyddol, roedd y corsydd a'r gwastatiroedd llifwaddodol hyn yn gorchuddio'r rhan fwyaf o ogledd ddwyrain Swydd Gaergrawnt, a rhannau o Norfolk a Swydd Lincoln. Ger Peterborough mae Flag Fen, safle un o'r aneddiadau hynaf ym Mhrydain sy'n dyddio o ryw 3500 mlynedd yn ôl, yn ystod Oes yr Efydd. Yn Isleham darganfuwyd un o'r celciau mwyaf o wrthrychau efydd, mwy na 6500 o ddarnau, yn Lloegr.[1]

Map o Swydd Gaergrawnt yn niwedd yr 17g.

Yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain, trigasant y rhan fwyaf o boblogaeth yr ardal yn nyffryn Afon Cam. Mae'n debyg taw'r Rhufeiniaid oedd y rhai i gychwyn ar y gwaith o ddraenio'r Ffendiroedd. Symudodd yr Eingl-Sacsoniaid i'r ardal yn y 5g, ac yn yr Oesoedd Canol Cynnar saif ar gyrion y Ddaenfro a brwydrodd y Daniaid a'r Sacsoniaid drosti. Enw'r ardal yn Llyfr Dydd y Farn yw Grentebrigescire, sy'n cyfeirio at Afon Granta, un o lednentydd Afon Cam. Gweinyddid Swydd Gaergawnt a Swydd Huntingdon gan yr un siryf yn ystod yr Oesoedd Canol. Sefydlwyd Prifysgol Caergrawnt yn y 13g. Cyflawnwyd draenio'r Ffendiroedd yn yr 17g, gan greu tiroedd âr a phorfeydd newydd.

Catrawd Swydd Gaergrawnt oedd uned y sir yn y Fyddin Brydeinig, a chafodd ei ffurfio'n gyntaf yn 1860 fel corffluoedd gwirfoddol o reifflwyr. Yn sgil ad-drefnu'r Fyddin gan Hugh Childers yn 1881, daeth yn un o fataliynau gwirfoddol Catrawd Suffolk. Daeth yn rhan o'r Llu Tiriogaethol yn 1908, ac yn gatrawd ar wahân yn 1909. Ymhlith anrhydeddau brwydrau'r gatrawd oedd Ail Ryfel y Boer, Ail Frwydr Ypres, Brwydr Passchendaele, a Brwydrau'r Somme (1916 a 1918) yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a Brwydr Singapore yn yr Ail Ryfel Byd. Lliwiau'r gatrawd oedd glas Caergrawnt a du. Adeiladwyd nifer o feysydd awyr yng ngwastatiroedd Swydd Gaergrawnt ar gyfer awyrennau bomio ac awyrennau ymladd yr Awyrlu Brenhinol ac Awyrlu Byddin yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Hanesyddiaeth

golygu

Un o'r hanesyddion lleol cyntaf i ysgrifennu ar Swydd Gaergrawnt oedd John Layer, yswain Shepreth, yn y 1630au. Defnyddiodd weithredoedd ystadau ei hunan a'i gymdogion yn ogystal â chofnodion Roger Dodsworth o Roliau'r Siawnsri a'r Trysorlys, i olrhain achau'r bonedd a'u heiddo ym mhlwyfi'r sir ers oes y Normaniaid. Ymwelodd hefyd ag eglwysi ar draws y sir gan nodi'r arysgrifau ac arwyddnodau herodrol. Yn y 18fed cafodd cofrestri eglwysig eu harchwilio gan hunafiaethwyr megis Francis Blomefield i lunio hanes llawnach o'r sir.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. David Hall a John Coles, "Fenland survey: an essay in landscape and persistence", Archaeological report 1 (1994), tt. 81–88.
  2. A. P. M. Wright, "Cambridgeshire" yn A Guide to English County Histories golygwyd gan C. R. J. Currie a C. P. Lewis (Stroud, Swydd Gaerloyw: Sutton Publishing 1997), tt. 62–63.

Darllen pellach

golygu