Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r Nant

Hunangofiant Twm o'r Nant

Mae Hanes Bywyd Thomas Edwards, Bardd, Gynt O'r Nant, Gerllaw Dinbych; Wedi Ei Ysgrifenu Ganddo Ef Ei Hun, yn ei 67ain flwyddyn o'i oedran, yn hunangofiant byr gan Twm o'r Nant. Cyhoeddwyd y llyfr yn wreiddiol ym 1806 gan wasg John Jones (Pyll). Cafodd y llyfryn ei ail argraffu nifer fawr o weithiau. Cyhoeddodd Pyll, ei hun o leiaf 6 argraffiad ohono[1]. Cyhoeddodd Hugh Humphreys, Caernarfon y llyfr o leiaf teirgwaith, yn gyntaf fel un o'i lyfrau Ceiniog ac yna yn un o'r casgliadau o 24 o lyfrau ceiniog wedi rhwymo at ei gilydd ac wedyn yn un o'r casgliadau 48 o lyfrau ceiniog wedi rhwymo at ei gilydd. Cafodd yr hunangofiant ei ddefnyddio fel cyflwyniad i Gardd o Gerddi Thomas Edwards, gwasg D Jones, Merthyr Tudful (1846)[2] a chafodd addasiad o'r llyfryn ei gynnwys yn Gwaith Twm o'r Nant Cyfrol I, Cyfres y Fil (1909)[3]. Cafwyd sawl argraffiad arall gan weisg eraill hefyd.

Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt o'r Nant
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurTwm o'r Nant Edit this on Wikidata
CyhoeddwrJohn Jones Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1806 Edit this on Wikidata

Yn ei gyflwyniad i'r gwaith mae Twm yn egluro bod "amryw ddynion (wedi) fy annog i ysgrifennu Hanes fy Mywyd o'm genedigaeth, neu yn hytrach o'r hyd yr wyf yn sicr o gofio". Mae'n gynnwys ychydig o atgofion ei blentyndod. Mae'n egluro sut cafodd yr enw Twm o'r Nant (roedd bachgen arall o deulu mwy parchus yn yr ardal yn rhannu'r un enw. Y Bachgen parchus cafodd ei adnabod fel Thomas a 'r bachgen tlawd cafodd ei lysenwi'n Twm). Mab i Evan Edward oedd Twm, ac yn cael ei adnabod fel Thomas Ifan, yn ei blentyndod, yn ôl trefn Cymraeg y cyfnod. Dywedodd athro ysgol Saesneg iddo "na fyddai ond bastardiaid yn myned ar ôl yr enw cyntaf", gan hynny newidiodd i fod yn Thomas Edwards. Mae o'n sôn am sut magwyd ei ddiddordeb barddonol trwy ysgrifennu cofnodion o ganeuon bardd anllythrennog. Mae o'n ddweud ei fod wedi dechrau ysgrifennu cerddi ac anterliwtiau ei hun cyn ei fod yn 9 mlwydd oed. Cawn hanes ei berfformiad cyntaf mewn anterliwt, yn chware rhan y ferch, pan oedd tua 12 mlwydd oed.

Rhwng 13 a 20 oed chwarae a chyfansoddi anterliwtiau oedd prif ddiddanwch Twm. Yn 20 oed dechreuodd caru merch oedd "yn tueddu at grefydd", gan hynny rhoddodd y gorau i'r anterliwtiau a dechrau gwneud gwaith mwy cyfrifol. Dechreuodd cario coed o ystâd Gwaenynog i Ruddlan. Trwy ddyfeisgarwch bu'n llwyddiannus iawn yn y gwaith. Daeth y llwyddiant i ben pan fu farw'r ceffylau roedd yn defnyddio i gario coed o'r clafr a marsiandwr oedd mewn dyled i Twm ffoi dros y môr heb ei dalu. I godi arian trodd Twm yn ôl at ysgrifennu a pherfformio anterliwtiau. Wedi cael digon o bres o'r anterliwtiau i brynu ceffyl a chert newydd, mae'n dechrau cario nwyddau o Gaer i fusnesau yn Ninbych a'r ardal. Ar ôl 12 mlynedd o gario o Gaer mae'n dychwelyd at gario coed ac yn cael llwyddiant ariannol wrth wneud.

Gan fod Twm yn ennill arian dda o'i waith cario, gofynnodd ewythr iddo i fynd yn feichiau iddo am ddyled £30. Roedd yr ewythr yn sicr bod modd iddo dalu'r ddyled ond cael ychydig o amser ac na fyddai unrhyw berygl i Twm. Methodd yr ewyrth i dalu ei ddyled a thynnodd hynny Twm i ddyled a thrafferthion cyfreithiol costus. I osgoi ei ddyledwyr aeth Twm ar ffo, yn gyntaf i Drefaldwyn ac wedyn i Landeilo.

Ail gydiodd Twm yn y gwaith cario coed yn Sir Gaerfyrddin ac er mwyn cael to dros ben y teulu cymerodd ofal am dollborth yn Llandeilo. Mae'r llyfr yn adrodd profiad rhyfedd cafodd Twm a'i deulu wrth gadw'r tollborth. Mi fyddai'n weld cyhyraeth neu "toili ", rhith angladd oedd yn arwyddo bod rhywun ar fin marw, yn mynd heibio'r gât. Bydda'i hefyd yn gweld canhwyllau corff, arwydd arall o angau yn mynd heibio.

Mi welais fy hun, ryw noswaith, hers yn myned trwy'r gate, a hithau yng nghauad; gweled y ceffylau a'r harness, a'r hogyn postilion a'r coachman, a'r siobau rhawn fydd ar dopiau hers, a'r olwynion yn pasio'r cerrig yn y ffordd fel y byddai olwynion eraill a'r claddedigaethau yr un modd, mor debyg, yn elor ac yn frethyn du, neu os rhyw un ieuanc a gleddid, byddai fel cynfas wen; ac weithiau yn gweled canwyll gref yn myned heibio.

Unwaith pan alwodd rhyw drafaeliwr yn y gate,"Edrwch acw," eb ef, "dacw gannwyll gorph yn dyfod hyd y caeau o'r ffordd fawr gerllaw; felly ni a ddaliasom sylw arni yn dyfod, megys o'r tu arall i'r lan; weithiau yn agos i'r ffordd, waith arall enyd yn y caeau; ac yn mhen ychydig bu raid i gorph ddyfod yr unffordd ag yr oedd y ganwyll; oblegid fod yr hen ffordd yn llawn o eira.

Wedi bod yn cadw tafarn am ychydig yn Llandeilo trodd Twm yn ôl at ysgrifennu a pherfformio anterliwtiau a dychwelodd adref i'r gogledd. Ysgrifennodd ei hunangofiant, a bu farw 4 blynedd yn niweddarach ym 1810.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Edwards (Twm o'r Nant), Thomas (1840). Hanes bywyd Thomas Edwards bardd gynt or Nant  (arg. 6). Llanrwst: John Jones (Pyll).
  2. Edwards, Thomas. "Hanes bywyd Thomas Edwards, bardd, gynt o'r Nant, gerllaw Nantglyn, Swydd Dinbych, cyhoeddwyd 1849". Casgliad y Werin Cymru. Cyrchwyd 2022-10-23.
  3. Edwards, Owen Morgan (1909). "Gwaith Twm o'r Nant Cyf I -Book Reader - Wikimedia" (PDF). bookreader.toolforge.org. Cyrchwyd 2022-10-23.