Hanes y Saesneg yng Nghymru
Canol oesoedd
golyguDygwyd yr iaith Saesneg i Gymru yn sgil goresgyniadau'r Normaniaid yn niwedd yr 11g.[1] Y goncwest Normanaidd yn Lloegr oedd dechreuad y trawsnewidiad o'r Hen Saesneg (iaith yr Eingl-Sacsoniaid) i Saesneg Canol, wrth i iaith newydd yr uchelwyr, Eingl-Normaneg, ddylanwadu'n gryf ar iaith y werin Seisnig. O'r 12g ymlaen, gwladychwyd rhannau o iseldiroedd ffrwythlon De Cymru a gororau'r Mers gan siaradwyr Saesneg, gan sefydlu presenoldeb yr iaith yng Nghymru. Dros y canrifoedd a ddilynent gael eu cymathu gan y brodorion Cymreig fyddai hanes llawer ond nid pawb ohonynt. Cafwyd mewnlifiad sylweddol o Saeson i dde Sir Benfro, a gwahoddwyd hefyd Ffleminiaid o Loegr gan y Normaniaid i feddiannu llain o dir clustog rhwng y Saeson a'r Cymry. Diflannodd yr iaith Fflemeg wedi ychydig canrifoedd, ond arhosai'r ffin ieithyddol yn Sir Benfro hyd heddiw sy'n gwahanu cymunedau Cymraeg y gogledd o ardaloedd Saesneg y de. Ni lwyddwyd byth ychwaith i Gymreigio'r gwladychwyr Saesneg ym Mro Gŵyr. Erbyn y 14g, bu cymunedau Saesneg sefydlog mewn ambell fwrdeistref yn y gogledd a'r de.
Cyfnod modern
golyguCyfeddiannwyd tiriogaeth Cymru i Deyrnas Lloegr yn sgil Deddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru 1536 a 1542, ac aeth y drefn newydd ati i orfodi'r Saesneg yn iaith y llywodraeth a'r gyfraith. Fodd bynnag, daliodd yr iaith frodorol, Cymraeg, ei thir yn gryf trwy gydol y cyfnod modern cynnar. Cryfhaodd yr iaith Saesneg yng Nghymru o ganlyniadau i newidiadau economaidd a chymdeithasol y Chwyldro Diwydiannol, yn enwedig y mudo mewnol ar raddfa enfawr yn ail hanner y 19g a dechrau'r 20g. Rhwng 1801 a 1901 gostyngodd canran y Cymry Cymraeg yng Nghymru o tua 90% i 50%. Cynnyddodd dwyieithrwydd ymhlith y werin Gymraeg o ganlyniad i addysg Saesneg orfodol.
20g
golyguErbyn dechrau'r 20g, Saesneg oedd iaith gyntaf neu ail iaith y mwyafrif o'r boblogaeth. Cryfhaodd presenoldeb y Saesneg yn sylweddol, ar draul y Gymraeg, yn ystod y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, o ganlyniad i effeithiau'r Rhyfel Byd Cyntaf a'r Dirwasgiad Mawr. Mudodd nifer o'r genhedlaeth iau i ardaloedd eraill, gan adael poblogaeth oedd yn heneiddio. Bu effaith hefyd ar ardaloedd diwydiannol trwm y wlad, megis maes glo De Cymru. Daeth Saesneg yn fwy amlwg yn y gymdeithas gyda lledaeniad y cyfryngau torfol, gan gynnwys papurau newydd, radio, a'r sinema. Codwyd rheilffyrdd a ffyrdd gan hybu twristiaeth i bob cwr o'r wlad, yn aml gan ymwelwyr o Loegr.[2] Dirywiodd y niferoedd o siaradwyr Cymraeg uniaith yn ail hanner yr 20g, a bellach mae'n debyg bod bron pob oedolyn yng Nghymru yn medru ar rywfaint sylweddol o Saesneg os nad yn rhugl yn yr iaith. Fodd bynnag, mae canran y siaradwyr Gymraeg wedi aros yn weddol sefydlog, rhwng 17% a 20% o'r boblogaeth, ers 1971.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Allan James, "English(es) in post-devolution Wales: The sociolinguistic reconstruction of late modern Valleys Voice", AAA: Arbeiten aus Anglistik und Amerikanistik 36:1 (2011), tt. 47-64.
- ↑ Hanes yr iaith: Rhwng y rhyfeloedd - 1918 - 1939. BBC Cymru.