Cyfnod modern cynnar Cymru
Mae'r cyfnod modern cynnar Cymru yn dilyn y cyfnod 1500 i 1800.

Y Gymraeg golygu
Ym 1567, cwblhaodd William Salesbury a Thomas Huet y cyfieithiad modern cyntaf o'r Testament Newydd a'r cyfieithiad cyntaf o'r Llyfr Gweddi Gyffredin. Ym 1588, cwblhaodd William Morgan gyfieithiad o'r Beibl cyfan. Roedd y cyfieithiadau hyn yn gam pwysig i barhad yr iaith Gymraeg a chawsant yr effaith o roi statws i'r Gymraeg fel iaith litwrgaidd a chyfrwng addoli. Roedd gan hyn rôl arwyddocaol yn ei ddefnydd parhaus fel cyfrwng cyfathrebu bob dydd ac fel iaith lenyddol hyd heddiw er gwaethaf pwysau’r Saesneg.[1]
Yn 1588, William Morgan cynhyrchodd y cyfieithiad llawn cyntaf o'r Beibl Gymraeg.[2][3] Beibl William Morgan yn un o'r llyfrau mwyaf arwyddocaol yn yr iaith Gymraeg ac fe wnaeth ei chyhoeddiad gynyddu statws ac eangder y Gymraeg yn sylweddol.[2]
Crefydd golygu
Calfinistiaeth golygu
Cyflwynodd yr esgob Richard Davies a'r clerig protestant John Penry ddiwinyddiaeth galfinaidd i Gymru. Datblygodd Calfinistiaeth yn ystod y cyfnod Pwritanaidd yn dilyn ailffurfurfio'r frenhiniaeth Saesnig gyda Siarl II ac yn ystod y symudiad methodistaidd yng Nghymru. Ychydig o gopïau o weithiau Calvin oedd ar gael cyn canol y 19g.[4]
Adfywiad Methodistaidd golygu
Gwelodd y 18fed ganrif hefyd y diwygiad Methodistaidd Cymreig, dan arweiniad Daniel Rowland, Howel Harris a William Williams (Pantycelyn).[5] Bu Anghydffurfiaeth yn ddylanwad arwyddocaol yng Nghymru o'r ddeunawfed ganrif i'r ugeinfed ganrif. Diwygiad Methodistaidd Cymreig y 18fed ganrif oedd un o'r mudiadau crefyddol a chymdeithasol mwyaf arwyddocaol yn hanes Cymru. Dechreuodd y diwygiad o fewn Eglwys Loegr yng Nghymru ac arhosodd ar y dechrau fel grŵp o'i mewn, ond roedd y diwygiad Cymreig yn wahanol i'r diwygiad Methodistaidd yn Lloegr gan mai Calfinaidd yn hytrach nag Arminaidd oedd ei diwinyddiaeth. Yn gynnar yn y 19eg ganrif torrodd y Methodistiaid Cymreig i ffwrdd oddi wrth yr eglwys Anglicanaidd a sefydlu eu henwad eu hunain, sef Eglwys Bresbyteraidd Cymru bellach. Arweiniodd hyn hefyd at gryfhau enwadau anghydffurfiol eraill, ac erbyn canol y 19eg ganrif, Anghydffurfwyr oedd Cymru i raddau helaeth mewn crefydd. Roedd goblygiadau sylweddol i hyn i'r Gymraeg gan mai hi oedd prif iaith eglwysi anghydffurfiol Cymru. Roedd yr ysgolion Sul a ddaeth yn nodwedd bwysig o fywyd Cymru yn gwneud rhan fawr o’r boblogaeth yn llythrennog yn y Gymraeg, a oedd yn bwysig i barhad yr iaith gan nad oedd yn cael ei haddysgu yn yr ysgolion. Yn raddol, adeiladodd Methodistiaid Cymreig eu rhwydweithiau, strwythurau, a hyd yn oed tai cwrdd (neu gapeli) eu hunain, a arweiniodd yn y pen draw at ymwahaniad 1811 a sefydlu Eglwys Bresbyteraidd Methodistiaid Calfinaidd Cymru yn ffurfiol yn 1823.[6]
Rhyfeloedd y tair teyrnas golygu
Roedd Cymru'n llethol yn Frenhinwyr yn Rhyfeloedd y Tair Teyrnas ar ddechrau'r 17eg ganrif, er bod rhai eithriadau nodedig megis John Jones Maesygarnedd a'r llenor Piwritanaidd Morgan Llwyd. Roedd Cymru yn ffynhonnell bwysig o ddynion i fyddinoedd Brenin Charles I o Loegr[7] er na fu unrhyw frwydrau mawr yng Nghymru. Dechreuodd Ail Ryfel Cartref Lloegr pan newidiodd milwyr Seneddol di-dâl yn Sir Benfro ochr yn gynnar yn 1648.[8]
Addysg golygu
Roedd addysg yng Nghymru ar bwynt isel yn y cyfnod hwn. Roedd addysg ar gael yn Saesneg yn unig tra bod y mwyafrif o'r Cymry yn siarad Cymraeg. Yn 1731 fe wnaeth Griffith Jones ddechrau ysgolion a oedd yn cylchredeg yng Ngeredigion. Roeddent yn cael eu cynnal mewn un lle ac yna yn "cylchredeg" i leoliad arall. Cymraeg oedd iaith yr ysgolion hyn. Erbyn marwolaeth Griffith Jones yn 1761, fe wnaeth tua 250,000 o bobl ddysgu i ddarllen trwy'r ysgolion hyn trwy Gymru.[9]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Jenkins, G. H. The foundations of modern Wales p. 7
- ↑ 2.0 2.1 Davies, John (Ed) (2008). The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 572. ISBN 978-0-7083-1953-6.CS1 maint: extra text: authors list (link)
- ↑ Williams, G. Recovery, reorientation and reformation pp. 322–3
- ↑ D. Densil Morgan, "Calvinism in Wales: c.1590–1909," Welsh Journal of Religious History (2009), Vol. 4, p22-36
- ↑ Jenkins, G.H. The foundations of modern Wales pp. 347–50
- ↑ Peter Yalden, "Association, Community and the Origins of Secularisation: English and Welsh Nonconformity, c. 1850–1930." Journal of Ecclesiastical History 55#2 (2004): 293-324.
- ↑ Jenkins, G. H. The foundations of modern Wales p. 5-6
- ↑ Davies, J. A History of Wales p. 280
- ↑ Jenkins, G. H. The foundations of modern Wales pp. 370–377