John Gwyn Griffiths

ysgolhaig, bardd a chenedlaetholwr Cymreig

Roedd John Gwyn Griffiths (enw llawn: John Gwynedd Griffiths; 7 Rhagfyr 1911 - 15 Mehefin 2004) yn ysgolhaig, yn feirniad, yn olygydd ac yn genedlaetholwr Cymreig a aned yn y Porth, y Rhondda.[1]

John Gwyn Griffiths
Ganwyd7 Rhagfyr 1911 Edit this on Wikidata
y Porth Edit this on Wikidata
Bu farw15 Mehefin 2004 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, ysgolhaig clasurol, eifftolegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodKate Bosse-Griffiths Edit this on Wikidata
PlantRobat Gruffudd, Heini Gruffudd Edit this on Wikidata
J. Gwyn Griffiths (1911-2004) a'i wraig Käte Bosse-Griffiths (1910-1998) yn 1939.

Bywgraffiad

golygu

Cyhoeddodd J. Gwyn Griffiths astudiaethau ar destunau Groeg a Lladin ac ar grefydd yr Aifft. Bu'n athro yn y Clasuron ac Eifftoleg yng ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe.

Roedd yn fab i'r Parchedig Robert Griffiths, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn eglwys Moreia, yn y Pentre, Rhondda. Cafodd ei addysg yn Ysgol Sir y Bechgyn, yn y Porth, graddio mewn Lladin a Groeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Yna astudiodd Eiffteg a Hebraeg ym Mhrifysgol Lerpwl am dair blynedd, cyn bod yn fyfyriwr ymchwil yn Rhydychen. Bu'n athro Lladin yn ei hen ysgol yn y Porth ac yn y Bala cyn cael ei apwyntio yn 1946 yn ddarlithydd cynorthwyol yn Adran y Clasuron yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe.

Roedd yn llenor ac yn un o sylfaenwyr Cylch Cadwgan gan gyhoeddi cyfrolau o farddonaieth ac astudiaethau llenyddol. Roedd yn genedlaetholwr brwd a safodd etholiadau dros Blaid Cymru.

Roedd yn briod â'r llenor a'r arbenigwraig ar Eifftoleg, sef Kate Bosse Griffiths a chawsant ddau fab, yr awduron Robat Gruffudd (ganwyd 1943), sefydlydd Gwasg y Lolfa, a Heini Gruffudd (ganwyd 1946), awdurdod ar ddysgu'r Gymraeg i oedolion ac ymgyrchydd brwd.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Conflict of Horus and Seth (1961)
  • Origins of Osiris (1966)
  • Plutarch's de Iside et Osiride (1970)
  • Metamorphoses, Apuleius (1975)
  • The Origins of Osiris and Isis Cult (1980)
  • The Divine Verdict (1991)
  • Barddoneg Aristoteles (1978, 2001) - cyfieithiad o Barddoneg gan Aristoteles
  • barddoniaeth:
    • Yr Efengyl Dywyll (1944)
    • Ffroenau'r Ddraig (1961)
    • Cerddi Cairo (1969)
    • Cerddi'r Holl Eneidiau (1981)
  • Anarchistiaeth (1944)
  • Y Patrwm Cydwladol (1949)
  • I Ganol y Frwydr (1970)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dolenni allanol

golygu