Henry Edward Manning

Clerigwr yn yr Eglwys Gatholig o Loegr oedd Henry Edward Manning (15 Gorffennaf 180814 Ionawr 1892) a fu'n aelod blaenllaw o Fudiad Rhydychen, a wasanaethodd yn Archesgob Westminster o 1865 hyd at ei farwolaeth.

Henry Edward Manning
Y Cardinal Henry Edward Manning
FfugenwCatholicus Edit this on Wikidata
Ganwyd15 Gorffennaf 1808 Edit this on Wikidata
Totteridge Edit this on Wikidata
Bu farw14 Ionawr 1892 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Addysgdoethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Anglicanaidd, offeiriad Catholig, llenor, archdeaconry in Protestantism, deon, diacon Edit this on Wikidata
Swyddarchesgob Westminster, cardinal Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe True Story of the Vatican Council, The Eternal Priesthood Edit this on Wikidata
TadWilliam Manning Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Totteridge, Swydd Hertford, yn fab i'r masnachwr a gwleidydd William Manning. Cafodd ei ordeinio'n offeiriad yn Eglwys Loegr ym 1833, a fe'i penodwyd yn Archddiacon Chichester ym 1840. Dylanwadwyd yn gryf ar Manning gan ddelfrydau'r Uchel Eglwys, a fe wrthwynebodd ymyrraeth y wladwriaeth mewn materion eglwysig, ac o'r herwydd felly câi ei wthio i ymarddel â Mudiad Rhydychen. Penderfynodd adael Eglwys Loegr o'r diwedd, mae'n debyg, yn sgil dyfarniad gan y Cyfrin Gyngor ym 1850 yn erbyn esgob a wrthododd benodi diwinydd Anglicanaidd, George C. Gorham, ar sail anuniongrededd.

Derbyniwyd Manning i'r Eglwys Gatholig Rufeinig ar 6 Ebrill 1851, a fe'i ordeiniwyd yn offeiriad Catholig gan y Cardinal Nicholas Wiseman ar 15 Mehefin 1851; caniatawyd hynny am i'w wraig farw ym 1837. Aeth i astudio diwinyddiaeth Gatholig yn Rhufain, a sefydlodd urdd Obladiaid y Sant Siarl ym 1857. Penodwyd Manning yn Archesgob Westminster, ac felly'n bennaeth ar yr Eglwys Gatholig yn Lloegr a Chymru, ym 1865, a fe'i dyrchafwyd yn gardinal ym 1875.[1]

Dan ei arweiniad, adeiladwyd sawl ysgol Gatholig yn Lloegr. Wltramontanydd pybyr—o blaid grymoedd ac uchelfreintiau'r Pab—oedd Manning, ac yng Nghyngor Cyntaf y Fatican fe ddadleuodd yn ffyrnig dros anffaeledigrwydd y Pab. Yn ystod streic y docwyr yn Llundain ym 1889, bu Manning yn cyflafareddu'n ddiduedd rhwng y streicwyr a pherchenogion y dociau. Bu farw'r Cardinal Manning yn Llundain yn 83 oed.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Henry Edward Manning. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Medi 2022.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: