Henry Powell Ffoulkes
Clerigwr Anglicanaidd o Gymru ac awdur llyfrau am yr Ysgol Sul oedd Henry Powell Ffoulkes (2 Ionawr 1815 – 26 Ionawr 1886).[1]
Henry Powell Ffoulkes | |
---|---|
Ganwyd | 2 Ionawr 1815 Stanstead Bury |
Bu farw | 26 Ionawr 1886 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | clerig, llenor |
Nodyn am ei enw
golyguFoulkes yw'r enw sy'n cael ei ddefnyddio gan y Bywgraffiadur, ond Ffoulkes sy'n cael ei ddefnyddio ym mron pob dogfen arall gan gynnwys H. B. Thomas, A History of the Diocese of St. Asaph, Alumni Oxonienses,[2] a chofnodion cyfrifiad.
Cefndir
golyguGanwyd Ffoulkes yn Stanstead Bury, Swydd Hertford yn blentyn i John Powell Ffoulkes a Caroline Mary (née Jocelyn) ei wraig. Roedd y teulu a'i wreiddiau yn Sir Ddinbych. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Caer, Ysgol Bonedd yr Amwythig [3] a Choleg Balliol, Rhydychen, lle graddiodd ym 1837 gyda BA 4ydd dosbarth Literae Humaniores (llenyddiaeth glasurol Lladin a Groeg).[2]
Gyrfa
golyguYm 1839 ordeiniwyd ef yn ddiacon ac offeiriad gan Esgob Llanelwy. Penodwyd ef yn gurad Helygain. Yn 1840 penodwyd ef yn guradur cyflogedig Eglwys Sant Mathew, Bwcle gan dal y swydd honno hyd 1857, pan benodwyd ef gan Esgob Llanelwy yn Rheithor Llandysul, Sir Drefaldwyn.[4] Ym 1861 penododd Esgob Llanelwy ef yn Archddiacon Maldwyn ac yn Ganon Breswyl Llanelwy. Ym 1879 fe'i penodwyd yn rheithor Whittington, Swydd Amwythig, gan barhau yn y swydd honno ynghyd â'r archddiaconiaeth a'r ganonyddiaeth hyd ddiwrnod ei farwolaeth.
Teulu
golyguPriododd Jane Margaret, merch Edward Lloyd, Plas Rhagad, Glyndyfrdwy bu iddynt un ferch, Gertrude, a fu farw yn 13 mlwydd oed. Bu Ffoulkes yn un o sylfaenwyr Ysbyty Plant y Rhyl (Ysbyty Brenhinol Alexandra bellach). Ar farwolaeth ei ferch adeiladwyd Ward Gertrude fel atodiad i'r ysbyty er cof amdani gyda Ffoulkes ei hun yn rhoi cymynrodd i gadw gwely Gertrude ar y ward am fyth.[5]
Marwolaeth
golyguBu farw o beritonitis yn ei gartref swyddogol yn Llanelwy yn 71 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Gadeiriol Llanelwy wedi cynhebrwng a arweiniwyd gan yr Esgob.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "FOULKES, HENRY POWELL (1815 - 1886), clerigwr ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-24.
- ↑ 2.0 2.1 Foster, Joseph. Alumni Oxonienses: The Members of the University of Oxford, 1715-1886 and Alumni Oxonienses: The Members of the University of Oxford, 1500-1714. Oxford: Parker and Co., 1888-1892
- ↑ Auden, John Ernest (1909). Shrewsbury School register, 1734-1908. Croesoswallt: Woodall. t. 88.
- ↑ "No title - Y Gwyliedydd". Amos Brothers. 1886-02-10. Cyrchwyd 2019-11-24.
- ↑ "History Points - The Royal Alexandra Hospital, Rhyl". historypoints.org. Cyrchwyd 2019-11-24.
- ↑ "DEATH AND FUNERAL OF ARCHDEACON FFOULKES - The Rhyl Advertiser". Amos Brothers ; W. Pugh and J. L. Rowlands. 1886-02-06. Cyrchwyd 2019-11-24.