Henry Paget, Iarll 1af Uxbridge

Iarll o Sir Fôn

Roedd Henry Bayly-Paget, Iarll 1af Uxbridge (18 Mehefin 1744 - 13 Mawrth 1812), a oedd yn cael ei adnabod fel Henry Bayly hyd 1769 ac fel Arglwydd Paget rhwng 1769 a 1784, yn bendefig Prydeinig.

Henry Paget, Iarll 1af Uxbridge
Ganwyd18 Mehefin 1744 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Bu farw13 Mawrth 1812 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
TadSyr Nicholas Bayly, 2il Farwnig Edit this on Wikidata
MamCaroline Paget Edit this on Wikidata
PriodJane Champagné Edit this on Wikidata
PlantHenry William Paget, Edward Paget, Charles Paget, William Paget, Berkeley Paget, Arthur Paget, Jane Stewart, Caroline Paget, Lady Louisa Paget, Lady Charlotte Paget, Mary Paget, Brownlow Paget Edit this on Wikidata
PerthnasauThomas Paget, George Stewart, 8ed Iarll Galloway, John Cole, 2il Iarll Enniskillen, Thomas Graves, 2il Farwn Graves Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Henry Bayly, yn fab hynaf Syr Nicholas Bayly, 2il Farwnig, o Blas Newydd Llanfairpwll, Ynys Môn, a'i wraig Caroline Paget, merch y Brigadydd-Cyffredinol Thomas Paget ac or -wyres i William Paget, 5ed Barwn Paget. Olynoddd fel y 10fed Barwn Paget ym 1769 ar farwolaeth cyfyrder ei fam, yr Iarll Uxbridge a thrwy Drwydded Frenhinol ar 29 Ionawr 1770, cymerodd yr enw Paget yn lle Bayly. Ym 1782 olynodd ei dad fel y 3ydd Barwnig.[1]

Daeth Uxbridge yn Arglwydd Raglaw Ynys Môn ym 1782. Ar 19 Mai 1784 cafodd ei greu yn Iarll Uxbridge, yn Swydd Middlesex. Roedd hefyd yn Arglwydd Raglaw Swydd Stafford rhwng 1801 a 1812, Cwnstabl Castell Caernarfon, Ceidwad Coedwig yr Wyddfa, Stiward Bardney, ac Is-Lyngesydd Gogledd Cymru .[1]

 
Plas Newydd, sedd y teulu Bayly (a Bayley-Paget)

Ym 1767 priododd yr Arglwydd Uxbridge â Jane, merch y Parchedig Arthur Champagné, Deon Clonmacnoise, un o ddisgynyddion teulu adnabyddus o Hiwgenotiaid a oedd wedi ymgartrefu yn yr Iwerddon, a'i wraig Jane Forbes.[2] bu iddynt ddeuddeg o blant:

Marwolaeth

golygu

Bu farw'r Arglwydd Uxbridge ym mis Mawrth 1812, yn drigain a saith mlwydd oed, ac olynwyd ef yn yr iarllaeth gan ei fab hynaf Henry, a enillodd enwogrwydd ym Mrwydr Waterloo ac a gafodd ei greu yn Ardalydd Ynys Môn. Bu farw Iarlles Uxbridge ym mis Mawrth 1817, yn saithdeg mlwydd oed.[1]

Gwaddol

golygu

Ym 1809 prynodd yr Arglwydd Uxbridge Surbiton Place, ychydig i'r de o Kingston upon Thames. Pan adeiladwyd ystâd Surbiton Park ar ei thiroedd yn y 1850au, enwyd un o'r strydoedd yn Uxbridge Road er anrhydedd iddo ef a'i etifedd Henry.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 thepeerage.com Henry Paget, 1st Earl of Uxbridge
  2. [1] Christening of Brownlow Bayley-Paget, son of Jane Champagne. Ancestry.com. England & Wales, Christening Index, 1530-1980 (database on-line). Provo, UT, USA: Ancestry.com Operations, Inc., 2008. Original data: Genealogical Society of Utah. British Isles Vital Records Index, 2nd Edition. Salt Lake City, Utah: Intellectual Reserve, copyright 2002. Accessed 14 August 2016.