John Herbert Lewis

cyfreithiwr a gwleidyddwr
(Ailgyfeiriad o Herbert Lewis)

Gwleidydd Rhyddfrydol Cymreig oedd Syr John Herbert Lewis (27 Rhagfyr 185810 Tachwedd 1933).

John Herbert Lewis
Ganwyd27 Rhagfyr 1858 Edit this on Wikidata
Mostyn Edit this on Wikidata
Bu farw10 Tachwedd 1933 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
PriodRuth Herbert Lewis Edit this on Wikidata
PlantKitty Idwal Jones Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Croes Fawr Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganed ef yng Nghei Mostyn, Sir y Fflint yn unig blentyn Enoch Lewis ac Catherine Roberts. Addysgwyd ef ym Mhrifysgol McGill a Coleg Exeter, Rhydychen. Ef oedd cadeirydd cyntaf Cyngor Sir y Fflint. Bu'n Aelod Seneddol dros etholaeth Bwrdeistrefi Fflint o 1892 hyd 1906, yna dros Sir y Fflint o 1906 hyd 1918. Ef oedd yr Aelod Seneddol cyntaf dros etholaeth newydd Prifysgol Cymru o 1918 hyd 1922. Yn 1894, cymerodd ran yn y "Gwrthryfel Cymreig" pan ymddiswyddodd o'r Chwip Ryddfrydol gyda David Alfred Thomas, David Lloyd George a Frank Edwards.

Roedd yn gefnogwr i'r mudiad Cymru Fydd, ac yn wrthynebydd i Ryfel y Boer yn etholiad 1900. Bu'n Arglwydd y Trysorlys, 1905-1908; Ysgrifennydd Seneddol i'r Bwrdd Llywodraeth Leol, 1909-1915 ac yn Ysgrifennydd Seneddol i'r Bwrdd Addysg, 1915-1922. Roedd yn un o brif gefnogwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a daeth yn Is-lwydd y Llyfrgell yn 1909 ac yn Llywydd yn 1926. Yn 1925, tra'n cerdded yn y bryniau uwchben Aberystwyth cyn cyfarfod o gyngor y Llyfrgell, syrthiodd i hen dwll chwarel, a dioddefodd anafiadau a'i gadawodd wedi ei barlysu am weddill ei fywyd.

Roedd yn radicalaidd ei argyhoeddiadau gwleidyddol, ac wedi dod yn ifanc o dan ddylanwad Evan Pan Jones (un o ddisgyblion Michael D. Jones). Roedd yn Gristion o argyhoeddiadau cryf. Yn Fethodist Calfinaidd amlwg, roedd yn perthyn i'r arweinydd Methodist, Thomas Jones o Ddinbych, ac o bosibl i'r awdur C. S. Lewis.

Roedd ei ail wraig, Ruth Herbert Lewis, yn aelod amlwg iawn o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru.

Cyfeiriadau

golygu

K. Idwal Jones (gol.), Syr Herbert Lewis 1858-1933 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1958)