Hiclys Donn
Hiclys Donn Anastrophyllum donnianum | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Scapaniaceae |
Genws: | Anastrophyllum |
Rhywogaeth: | A. donnianum |
Enw deuenwol | |
Anastrophyllum donnianum |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Hiclys donn (enw gwyddonol: Anastrophyllum donnianum; enw Saesneg: Donn's notchwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Nid yw’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.
Yr unig rywogaethau tebyg yw Hiclys alpaidd (A. alpinum) ac A. joergensenii ond mae gan y ddau ddail cymharol fyrrach ac ehangach nag Hiclys donn (A. donnianum). Yn aml, tyf gerllaw'r Hiclys alpaidd.
Disgrifiad
golyguHiclys donn (A. donnianum) yw un o'n llysiau'r afu mwyaf hyfryd o ran pryd a gwedd. Mae'n sgleiniog, yn frowngoch tywyll, ac mae ganddo ddail ceugrwm, hir, anghymesur. Mae'n tyfu fel clwmp neu dywarch rhydd o goesynnau unionsyth ymhlith llysiau'r afu mawr eraill. Mae'r coesynnau yn 1–4 mm o led, mae'r dail tua 1 mm o led a thua 1.5mm o hyd.[1]
Llysiau'r afu
golygu- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 3 Mai 2019.
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.