Hilde Domin
Awdures o'r Almaen a Gweriniaeth Dominica oedd Hilde Domin (27 Gorffennaf 1909 - 22 Chwefror 2006) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, cyfieithydd a nofelydd. Fe'i hystyrir fel y bardd Almaeneg pwysicaf yn ei chyfnod. Newiddiodd ei henw-awdur i 'Hilde Domin' yn o barch i Weriniaeth Dominica, yr unig wlad a'i chroesawodd hi a'i gŵr, wrth iddynt geisio ffoi oddi wrth y Natsiaid.[1][2][3][4][5]
Hilde Domin | |
---|---|
Ganwyd | Hildegard Dina Löwenstein 27 Gorffennaf 1909 Cwlen |
Bu farw | 22 Chwefror 2006 Heidelberg |
Man preswyl | Cologne-Innenstadt |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, cyfieithydd, llenor, nofelydd |
Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen |
Priod | Erwin Walter Palm |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod Gogledd Rhine-Westphalia, Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Urdd Teilyngdod Baden-Württemberg, Gwobr y Wladwriaeth: Gogledd Rhine-Westphalia, Croes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Ida-Dehmel-Literaturpreis, Gwobr Nelly Sachs, Gwobr Jakob-Wassermann am Lenyddiaeth, Medal Carl Zuckmayer, Gwobr Friedrich-Hölderlin, Gwobr Roswitha, Gwobr Droste, Honorary Award of the Heinrich Heine Society |
Magwraeth a choleg
golyguGaned Hildegard Löwenstein (a newidiodd ei henw'n ddiweddarach i Hilde Palm) yn Cwlen, yr Almaen a bu farw yn Heidelberg, eto yn yr Almaen, ac fe'i claddwyd gerllaw yn Bergfriedhof. Roedd yn ferch i Eugen Löwenstein, cyfreithiwr ac Iddew Almaenig.
Rhwng 1929 a 1932 astudiodd ym Mhrifysgol Heidelberg, Prifysgol Cologne, Prifysgol Bonn, a Phrifysgol Humboldt yn Berlin. Astudiodd y gyfraith i ddechrau, ac yn ddiweddarach newidiodd ei harbenigedd i economeg, y gwyddorau cymdeithasol ac athroniaeth. Ymhlith ei hathrawon roedd Karl Jaspers a Karl Mannheim.
Rhyfel
golyguO ganlyniad i'r gwrth-semitiaeth gynyddol egnïol yn yr Almaen Natsïaidd, ymfudodd i'r Eidal yn 1932 gyda'i ffrind (a'i gŵr yn y ddiweddarach) Erwin Walter Palm a oedd yn awdur ac yn fyfyriwr archaeoleg. Derbyniodd ddoethuriaeth mewn gwyddoniaeth wleidyddol yn Fflorens yn 1935 a gweithiodd fel athrawes iaith yn Rhufain o 1935 i 1939. Priododd ac Erwin Walter Palm yn 1936. Gydag ymweliad Hitler â Rhufain ac awyrgylch chwerw yr Eidal ffasiynol dan Mussolini ysgogwyd y pâr ifanc i ymfudo unwaith eto.
Yn 1939 aethant i Loegr lle bu'n gweithio fel athrawes iaith yng Ngholeg St Aldyn. Doedd ofnau Hilde am y bygythiad Natsïaidd ddim wedi gwanhau, a cheisiodd y cwpwl gael fisa i unrhyw genedl yn America. Ni roddodd unrhyw un o'u gwledydd dewisol (yr Unol Daleithiau, Mecsico, yr Ariannin a Brasil) fisa iddynt, tra bod rhai yn codi tâl afresymol, nad oedd ganddynt. Yr unig wlad i'w croesawu yn ddiamod oedd Gweriniaeth Dominica, lle ymfudodd y ddau yn 1940.
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Sosialaidd a Democrataidd yr Almaen.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Academi Iaith a Barddoniaeth Almaeneg am rai blynyddoedd. [6][7][8]
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Urdd Teilyngdod Gogledd Rhine-Westphalia (1988), Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Urdd Teilyngdod Baden-Württemberg (1990), Gwobr y Wladwriaeth: Gogledd Rhine-Westphalia (1999), Croes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen (1983), Ida-Dehmel-Literaturpreis (1968), Gwobr Nelly Sachs (1983), Gwobr Jakob-Wassermann am Lenyddiaeth (1999), Medal Carl Zuckmayer (1992), Gwobr Friedrich-Hölderlin (1992), Gwobr Roswitha (1974), Gwobr Droste (1971), Honorary Award of the Heinrich Heine Society (1972)[9] .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12022208n. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_98. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022. https://www.deutsche-biographie.de/dbo031456.html#dbocontent. dyddiad cyrchiad: 1 Chwefror 2023.
- ↑ Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12022208n. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://www.theguardian.com/news/2006/mar/16/guardianobituaries.bookscomment1. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 5 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12022208n. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Hilde Domin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Hilde Domin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Hilde Domin". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Hilde Domin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Hilde Domin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Hilde Domin". "Hilde Domin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: http://books.guardian.co.uk/obituaries/story/0,,1731974,00.html. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12022208n. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Hilde Domin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Hilde Domin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Hilde Domin". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Hilde Domin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Hilde Domin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Hilde Domin". "Hilde Domin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 2 Ebrill 2015 Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 2 Ebrill 2015
- ↑ Galwedigaeth: https://cs.isabart.org/person/151514. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 151514.
- ↑ Anrhydeddau: https://www.hoelderlin-gesellschaft.de/website/de/friedrich-hoelderlin/hoelderlin-preise. dyddiad cyrchiad: 11 Hydref 2021.
- ↑ https://www.hoelderlin-gesellschaft.de/website/de/friedrich-hoelderlin/hoelderlin-preise. dyddiad cyrchiad: 11 Hydref 2021.