Hillary Clinton
Gwleidydd o'r Unol Daleithiau yw Hillary Diane Rodham Clinton (ganed 26 Hydref 1947), hefyd gwraig Arlywydd Bill Clinton; a bu'n Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau yn ystod arlywyddiaeth ei gŵr (1993 - 2001) Hi oedd 67ain Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau o 2009 hyd 2013 a Seneddwr o Efrog Newydd o 2001 hyd 2009. Roedd hi'n un o ymgeiswyr arlywyddol y Blaid Ddemocrataidd yn 2008 ond enillodd Barack Obama yr enwebiad. Collodd hefyd yn Etholiad 2016, pan gipiodd Donald Trump yr arlywyddiaeth.
Hillary Clinton | |
| |
Cyfnod yn y swydd 21 Ionawr 2009 – 1 Chwefror 2013 | |
Dirprwy | James Steinberg William Joseph Burns |
---|---|
Arlywydd | Barack Obama |
Rhagflaenydd | Condoleezza Rice |
Olynydd | John Kerry |
Cyfnod yn y swydd 3 Ionawr 2001 – 21 Ionawr 2009 | |
Rhagflaenydd | Daniel Patrick Moynihan |
Olynydd | Kirsten Gillibrand |
Cyfnod yn y swydd 20 Ionawr 1993 – 20 Ionawr 2001 | |
Arlywydd | Bill Clinton |
Rhagflaenydd | Barbara Bush |
Olynydd | Laura Bush |
Geni | 26 Hydref 1947 Chicago, Illinois, UDA |
Plaid wleidyddol | Plaid Ddemocrataidd |
Priod | Bill Clinton |
Plant | Chelsea Clinton |
Llofnod |
Personol
golyguFe'i ganed yn Chicago a'i magu ym mwrdeistref Park Ridge, Illinois, ble astudiodd y gyfraith yng Ngholeg Wellesley, gan raddio yn 1969. Derbyniodd radd arall yn Ysgol y Gyfraith, yng Ngholeg Iâl yn 1973. Bu'n gwnsel am ychydig cyn priodi Bill Clinton yn 1975. Roedd ei thad, Hugh Ellsworth Rodham (1911–1993) o dras Gymreig a Seisnig[1] a weithiai fel rheolwr yn y diwydiant tecstilau,[2] a'i mam Dorothy Howell Rodham (1919–2011), o dras Albanaidd, Cymreig, Seisnig, Canadaidd ac Iseldiraidd.[1][3]
Ymgeisydd am Arlywyddiaeth 2016
golyguYng Ngorffennaf 2016 fe'i henwebwyd gan y Blaid Ddemocrataidd fel eu ymgeisydd ar gyfer yr arlywyddiaeth yn Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2016, y fenyw gyntaf i'w enwebu gan unrhyw brif blaid yn yr U.D.A. Cododd sawl honiad o dwyll a cham-weithredu yn ei herbyn, nid yn unig gan ei gwrthwynebydd Donald Trump yn y ras am yr Arlywyddiaeth, ond ychydig ddyddiau cyn yr etholiad - gan yr FBI. Roedd y prif honiadau'n ymwneud â nifer o ebyst a oedd wedi'u dileu. Trump a orfu, yn groes i'r polau piniwn.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Roberts, Gary Boyd. "Notes on the Ancestry of Senator Hillary Rodham Clinton". New England Historic Genealogical Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar June 7, 2013. Cyrchwyd November 10, 2012.
- ↑ Bernstein 2007, tt. 17–18.
- ↑ Smolenyak, Megan (Mai 2015). "Hillary Clinton's Celtic Roots". Irish America.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol Archifwyd 2013-02-10 yn y Peiriant Wayback
Rhagflaenydd: Barbara Bush |
Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau 1993 – 2001 |
Olynydd: Laura Bush |
Cyngres yr Unol Daleithiau | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Daniel Patrick Moynihan |
Seneddwr dros Efrog Newydd gyda Charles Schumer 2001 – 2009 |
Olynydd: Kirsten Gillibrand |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: Condoleezza Rice |
Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau 2009 – 2013 |
Olynydd: John Kerry |