Hiraeth
Teimlad o alar, gofid a cholled am fod oddi cartref neu o golli rhywun yw hiraeth (Cernyweg: hyreth, Llydaweg: hiraezh, Hen Wyddeleg: sirecht). Gair cyfansawdd ydyw: "hir" ac "aeth". Ynghlwm yn y gair hefyd mae'r elfen o ddymuniad neu ddyhead dwys.[1] Ceir geiriau tebyg mewn Galisieg (morriña) ac mewn Portiwgaleg (saudade).
Cofnodwyd y gair am y tro cyntaf yn y 13g yn Y Gododdin: Blwydyn hiraether gwyr gatraetham maeth ysmeu.
Mae Hiraeth hefyd yn ffilm gan Graham Bowers, ac yn enw ar sawl darn o farddoniaeth.
Dyfyniadau
golyguHen bennill:
Hiraeth mawr a hiraeth creulon,
Hiraeth sydd yn torri 'nghalon,
Pan fwy' dryma'r nos yn cysgu
Fe ddaw hiraeth ac a'm deffry
Gweler hefyd
golygu- Hiraethog
- Cwm Hiraeth; nofel hir gan Rhydwen Williams mewn tair rhan
- Hiraeth (albwm); albwm gan Endaf Emlyn (1974)
- Hiraeth am Yfory; Angharad Tomos (2002)
- Galarnad
- Emosiwn
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru; Gwas Prifysgol Cymru; Cyfrol ll, tud 1871.