Mynydd Hiraethog
Mae Mynydd Hiraethog yn ardal o ucheldir, gan mwyaf rhwng 400m a 500m, rhwng Afon Conwy ac Afon Clwyd, yn Sir Ddinbych a Sir Conwy.
Math | ucheldir, cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.099502°N 3.637034°W |
Manylion | |
Rhiant gopa | Mwdwl-eithin |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Mae'n ardal o rostir, gyda rhai dyffrynnoedd yn torri ar ei draws. Mae rhannau o Fynydd Hiraethog yn cynnwys trwch o rostir grug, sydd yn brin iawn yng Nghymru. Rheolid y rhostir yma ar gyfer saethu Grugiar yn hanner cyntaf yr 20g, ond bellach mae niferoedd y Grugiar wedi gostwng yn sylweddol yma. Mae rhan ddwyreiniol Mynydd Hiraethog yn cynnwys planhigfeydd coedwigaeth sy’n rhan o Goedwig Clocaenog, sydd hefyd yn gartref i un o boblogaethau olaf o wiwerod coch yng Nghymru.
Y copa uchaf yw Mwdwl-eithin (532 medr). Mae Meol Seisiog (467 medr) yn gopa arall ble mae dwr Afon Elwy yn dechrau llifo.
Mae'r ardal yn adnabyddus am olion cynhanesyddol, yn enwedig o Oes yr Efydd. Ymddengys fod poblogaeth sylweddol wedi bod yn byw yma yn y cyfnod yma, pan oedd yr hinsawdd ychydig yn gynhesach nag ar hyn o bryd. Ceir nifer o gronfeydd dŵr yma; y rhai mwyaf yw Llyn Alwen, Llyn Brenig a Chronfa Aled Isaf.
Mae adfeilion y porthdy hela Gwylfa Hiraethog ar ucheldir Mynydd Hiraethog, a gall eu gweld o'r ffordd A543 gerllaw.
Copaon
golyguEnw | Cyfesurynnau OS | Cyfesurynnau Daearyddol | |
---|---|---|---|
Bryn Euryn | SH832798 | map | 53.302°N, 3.754°W |
Bryn Pydew | SH811790 | map | 53.294°N, 3.785°W |
Craig Bron-banog | SJ016520 | map | 53.056°N, 3.469°W |
Creigiau Rhiwledyn | SH812823 | map | 53.324°N, 3.785°W |
Gorsedd Brân | SH969597 | map | 53.124°N, 3.542°W |
Pen y Gogarth | SH767833 | map | 53.332°N, 3.853°W |
Marial Gwyn (Foel Goch) | SH999556 | map | 53.088°N, 3.496°W |
Moel Fodiar | SH978680 | map | 53.199°N, 3.531°W |
Moelfre Isaf | SH951733 | map | 53.246°N, 3.573°W |
Moelfre Uchaf | SH898716 | map | 53.229°N, 3.652°W |
Mwdwl-eithin, Llyn Alwen | SH917540 | map | 53.072°N, 3.617°W |
Mwdwl-eithin, Llanfihangel Glyn Myfyr | SH989469 | map | 53.009°N, 3.508°W |
Mwdwl-eithin, Llangernyw | SH829682 | map | 53.197°N, 3.754°W |
Mynydd Marian | SH888774 | map | 53.281°N, 3.669°W |
Mynydd Tryfan | SH976655 | map | 53.176°N, 3.533°W |
Tre-pys-llygod | SH894687 | map | 53.203°N, 3.657°W |