Hollt Dwyrain Affrica

System o holltau daearegol yw Hollt Dwyrain Affrica neu'r Hollt Affricanaidd-Arabaidd[1] sydd yn ymestyn o'r hollt gyfandirol rhwng platiau tectonig Arabia ac Affrica yn Ne Orllewin Asia yn y gogledd, ar hyd y Môr Coch a thrwy Ddwyrain Affrica tua'r de. Hon yw un o'r holltau hiraf ar wyneb y Ddaear, rhyw 6,400 km o hyd a 50–60 km o led ar gyfartaledd. Mae'n cynnwys Afon Iorddonen, y Môr Marw, a Gwlff Aqaba yn y gogledd, Gwastadedd Denakil yn Ethiopia, a rhanbarth Llynnoedd Mawr Affrica. Parheir yr hollt i'r de drwy Dansanïa a Mosambic tuag at arfordir Cefnfor India. Lleolir y rhan fwyaf o Hollt Dwyrain Affrica yn y trofannau. Ar hyd yr hollt yng nghyfandir Affrica mae Plât Affrica yn hollti'n ddwy ran, neu ddau fân-blât tectonig: Plât Nubia a Phlât Somalia.

Hollt Dwyrain Affrica
Map o ffiniau'r platiau tectonig a'r holltau daearegol ym mhenrhyn Arabia a Dwyrain Affrica, gan ddangos llosgfynyddoedd hanesyddol fyw (trionglau cochion) a Thriongl Afar (yn dywyll) sydd yn nodi cymer Plât Arabia a lle mae Plât Affrica yn hollti'n ddwy.
Mathrift Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Cyfesurynnau3°S 35.5°E Edit this on Wikidata
Map

Mae Hollt Dwyrain Affrica yn cynnwys dwy gainc: Dwyrain y Dyffryn Hollt, neu'r Dyffryn Hollt Mawr, sydd yn ymestyn ar hyd yr holl system; a Gorllewin y Dyffryn Hollt, a red o ogledd Llyn Malawi tua'r gogledd, gan gynnwys llynnoedd Rukwa, Tanganica, Kivu, Edward, ac Albert.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) East African Rift System. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Hydref 2021.