Hugh Hughes (Y Bardd Coch o Fôn)

bardd ac uchelwr

Bardd, golygydd a chyfieithydd Cymreig o'r 18g a gysylltir â chylch llenyddol Morysiaid Môn oedd Hugh Hughes neu Y Bardd Coch o Fôn (weithiau hefyd Huw ap Huw neu Huw Huws neu Y Bardd Coch) (22 Mawrth 16936 Ebrill 1776).

Hugh Hughes
FfugenwY Bardd Coch Edit this on Wikidata
Ganwyd1 Awst 1693 Edit this on Wikidata
Llandyfrydog Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mai 1776 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaLewis Morris Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganed Hugh Hughes yn Llwydiarth Esgob ym mhlwyf Llandyfrydog, ger Llannerch-y-medd, Môn yn 1693.[1]

Dechreuodd farddoni yn ifanc a daeth i sylw Lewis Morris a'i frodyr. Daeth yn aelod gohebol o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.[1]

Gwaith llenyddol

golygu

Ceir detholiad o rai o'i gerddi yn y cyfrolau Dewisol Ganiadau yr Oes Hon (1759), Diddanwch Teuluaidd (1763) a Diddanwch i'w Feddianydd (1773). Mae'n enwog am ei gywydd annerch i Goronwy Owen a symbylodd y bardd hwnnw i gyfansoddi un o'i gerddi mwyaf adnabyddus, 'Cywydd yn ateb Huw'r Bardd Coch', sy'n folawd i Ynys Môn.[1]

Cyfieithodd y Bardd Coch ddau lyfr i'r Gymraeg, ar bynciau moesol.[1]

Llyfryddiaeth

golygu

Blodeugerddi'r 18fed ganrif

golygu

Cyhoeddwyd peth o waith y bardd yn:

Llawysgrifau

golygu

Mae eraill o'i gerddi yn aros yn y llawysgrifau neu ar gael yma ac acw yn almanaciau'r cyfnod.

Mae llyfr yn llawysgrifen Y Bardd Coch ei hun sef 'Llyfr Melyn Tyfrydog' nawr yn nwylo Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Cafodd ei atgyweiro gan y llyfrgell ac mae bellach ar gael i'w ddarllen ac ystudio yno; mae'n cynnwys cerddi, nodiadau, carolau plygain ac ymchwiliaeth helaeth i deuluoedd yr ardal yn ogystal â theulu'r Bardd Coch ei hun.[angen ffynhonnell]

Detholiadau diweddar

golygu
  • D. Gwenallt Jones (gol.), Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1938). 'Cywydd yn ateb Huw'r Bardd Coch'.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 D. Gwenallt Jones (gol.), Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1938). Nodyn ar fywyd y bardd.