Hugh Hughes (rygbi)
Roedd Hugh Hughes (15 Hydref, 1863 - 1944) yn gefnwr rygbi rhyngwladol a chwaraeodd rygbi clwb i Glwb Rygbi Caerdydd. Chwaraeodd mewn dwy gêm ryngwladol i Dîm Cenedlaethol Cymru.[1]
Dyddiad geni | 15 Hydref 1863 | ||
---|---|---|---|
Man geni | Llanegryn, Meirionnydd | ||
Dyddiad marw | 1944 | ||
Lle marw | Manceinion | ||
Gyrfa rygbi'r undeb | |||
Gyrfa'n chwarae | |||
Safle | Cefnwr | ||
Clybiau amatur | |||
Blynyddoedd | Clwb / timau | ||
1884-1890 | Sêr caerdydd Harlecwiniaid Caerdydd Caerdydd | ||
Timau cenedlaethol | |||
Blynydd. | Clybiau | Capiau | |
1887-1889 | Cymru | (2) | (0) |
Cefndir
golyguGanwyd Hughes yn Llanegryn, Meirionnydd yn blentyn i John Hughes, labrwr amaethyddol a Harriet ei wraig. Bu Syr Robert Hughes, ei frawd hŷn, yn henadur ar Gyngor Caerdydd gan wasanaethu fel ei Arglwydd Maer cyntaf wedi i dref Caerdydd cael ei ddyrchafu'n ddinas ym 1905.[2][3]
Mewn cyfnod lle fu chware rygbi yn gamp amatur, bu Hughes yn ennill ei gyflog trwy weithio fel saer coed. Wrth chware rygbi byddai'n mynd a llond poced o flawd llif o'i waith i'r maes. Pob tro roedd yn anelu am y pyst byddai'n arfer tynnu ychydig o'r blawd llif allan o'i boced a'i roi ar flaen ei esgid, gan gredu ei fod yn gwella ei gic. Gan hynny roedd yn cael ei adnabod wrth y llysenw Sawdust Hughes yng nghylchoedd rygbi.[4]
Gyrfa Rygbi
golyguGyrfa clwb
golyguO'i ieuenctid bu Hughes yn chware pêl-droed 11 dyn, ond o symud o Feirionnydd i Gaerdydd tua 1884, roedd yn methu cael hyd i dîm lleol er mwyn parhau i chware. Symudodd i chware'r cod rygbi o bêl-droed a dechreuodd chware i dimau Sêr Caerdydd a Harlecwiniaid Caerdydd ar yr un pryd.[5]
Cafodd ei le yn nhîm dosbarth cyntaf Caerdydd ar hap. Roedd gan Gaerdydd gêm yn erbyn Weston Super Mare ond roeddent yn brin o chwaraewr. Cafodd Hughes dreial. Roedd Caerdydd ar y pryd yn dioddef yn ddifrifol oherwydd diffyg cefnwr da, yn fwy arbennig ciciwr dibynadwy, ac yn yr eilydd fe ddaethon nhw o hyd i'r dyn roedden nhw ei eisiau. Yn Weston, profodd Hughes ei fod yn chwaraewr addawol, a daeth ei gynnwys fel aelod cyflawn o'r tîm yn sicr.[5]
Oherwydd ei gefndir ym mhêl droed y gymdeithas roedd ganddo'r ddawn i gicio pêl yn gywir. Ar fwy nag un achlysur bu'n gyfrifol am drosi pob cais mewn gêm, gallu pwysig mewn cyfnod pan nad oedd pwynt ar gael am sgorio cais, dim ond am ei drosi.
Yn ogystal â chware i Gaerdydd bu hefyd yn chware i dîm de Cymru gan chwarae yn erbyn timau megis Prifysgol Rhydychen, Cymry Llundain [6] a Blackheath.
Rhoddodd y gorau i chware rygbi wedi iddo briodi ym 1890
Gyrfa ryngwladol
golyguDewiswyd Hughes ar gyfer tîm rygbi cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf ar gyfer y gêm oddi cartref yn erbyn tîm yr Alban ym Mhencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1887. Roedd tîm Cymru wedi profi cyfnod efo safle cefnwr eithaf sefydlog, wedi'i lenwi gan rai fel Charles Lewis, Arthur Gould ac ar gyfer y tair gêm flaenorol, Harry Bowen. Daethpwyd â Hughes i mewn i'r garfan ar gyfer yr ail gêm, a ddechreuodd gyfnod o ansefydlogrwydd parthed safle cefnwr Cymru. Dioddefodd Cymru golled ofnadwy, a welodd yr Alban yn sgorio pedwar cais ar ddeg. Gollyngwyd Hughes ar gyfer y gêm nesaf, gyda’r dewiswyr yn dewis Samuel Clark yn ei le.[7]
Er iddo gael ei anwybyddu ar pencampwriaeth 1888, bu Hughes yn rhan o dîm Caerdydd a wynebodd a churodd tîm rygbi'r Māori Seland Newydd ar 29 Rhagfyr 1888. Gêm Caerdydd oedd y gêm olaf o daith y Māori o amgylch Cymru a oedd wedi bod yn daith gymysg i'r twristiaid, er bod y tîm wedi curo Casnewydd ac Abertawe dros y pum niwrnod diwethaf. O dan gapteiniaeth Frank Hill, roedd Caerdydd ar ei orau, gyda Norman Biggs yn sgorio’n gynnar. Sgoriodd Caerdydd ail gais yn ddiweddarach yn y gêm a droswyd gan Hughes. Enillodd Caerdydd o gôl i ddim.[8]
Ail-ddewiswyd Hughes dros Gymru ym Mhencampwriaeth 1889, unwaith eto ar gyfer y gêm oddi cartref i'r Alban. Collodd Cymru'r gêm hon, ond o ymyl llawer llai na chyfarfyddiad 1887. Yng ngêm nesaf y twrnamaint gwelwyd Hughes yn colli ei le i Ned Roberts.[9]
Gemau rhyngwladol
golyguCymru
- yr Alban 1887, 1889
Teulu
golyguYm 1890 priododd Hughes Emily Thwaites, cawsant fab a dwy ferch. Erbyn cyfrifiad 1901 roedd y teulu wedi symud i fyw i Gasnewydd.[10] Ymadawodd y teulu Hughes am Prestwich, Swydd Gaerhirfryn rhywbryd rhwng y cyfrifiad ym mis Mawrth 1901 a geni merch hynaf y teulu yno ym Medi 1902. Symudodd Hughes i Ogledd Manceinion cyn geni ei ail ferch ym 1907 gan weithio yno fel saer coed i gwmni adeiladu tai hyd ei farwolaeth tua 1944
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3
- ↑ Cyngor Ddinas Cerdydd Cardiff’s First Lord Mayor Archifwyd 2020-08-03 yn y Peiriant Wayback adalwyd 21 Mehefin 2020
- ↑ "Cardiff Footbal Team - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1906-10-01. Cyrchwyd 2020-06-21.
- ↑ ""ROVER" NOT NEW - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-11-06. Cyrchwyd 2020-06-21.
- ↑ 5.0 5.1 "South Wales Football Players - South Wales Echo". Jones & Son. 1886-04-17. Cyrchwyd 2020-06-21.
- ↑ "SATURDAY'S FOOTBALL MATCHES - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1886-11-29. Cyrchwyd 2020-06-21.
- ↑ "SATURDAY'S FOOTBALL MATCHES - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1887-02-28. Cyrchwyd 2020-06-21.
- ↑ "Football Mystifying The Maoris - South Wales Echo". Jones & Son. 1889-01-01. Cyrchwyd 2020-06-21.
- ↑ "FOOTBALL - The Cambrian". T. Jenkins. 1889-02-08. Cyrchwyd 2020-06-21.
- ↑ Yr Archif Genedlaethol Cyfrifiad Casnewydd 1901 Rhif: RG13/4962; Ffolio: 30; Tudalen: 6