Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1890
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1890 ym Mangor, Sir Gaernarfon (Gwynedd bellach).
Cofnodion yr Eisteddfod | |
Enghraifft o'r canlynol | un o gyfres reolaidd o wyliau |
---|---|
Dyddiad | 1890 |
Cyfres | Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwleidyddiaeth
golyguGwrthododd Arglwydd Penrhyn rhoi ei gyfraniad arferol i gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol am ei fod yn ofni y gallai David Lloyd George, a oedd newydd ennill is-etholiad seneddol, droi'r eisteddfod yn un wleidyddol. O ganlyniad, rhoddwyd lle i nifer o Dorïaid amlwg a'r unig gyfraniad a wnaeth Lloyd George oedd cael ei orfodi i ddiolch i Syr John Puleston, Aelod Seneddol Devonport, Dyfnaint, a fu'n llywydd ac yn ffigwr amlwg yn yr Eisteddfod.
Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
---|---|---|---|
Y Gadair | Y Llafurwr[1] | - | Thomas Jones (Tudno) |
Y Goron | Ardderchog Lu'r Merthyri | - | John John Roberts (Iolo Caernarfon) |
Enillodd yr hanesydd Charles Ashton y wobr am draethawd Gymraeg ar fywyd gwledig Cymru. Gwobrwyd Glan Menai am ei draethawd "Y prif ddigwyddiadau hanesyddol yn dwyn perthynas â Bangor a'r gymdogaeth".[2]
Gweler hefyd
golygu- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor – achlysuron eraill pan gynhaliwyd yr Eisteddfod ym Mangor