Hwyaden lygad-aur

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Hwyaden Lygad-aur)
Hwyaden lygad-aur
Ceiliog
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Bucephala
Rhywogaeth: B. clangula
Enw deuenwol
Bucephala clangula
(Linnaeus, 1758)

Mae'r Hwyaden lygad-aur (Bucephala clangula) yn hwyaden fechan o'r genws Bucephala.

Caiff yr enw o'r llygad, sy'n liw melyn tarawiadol yn yr oedolion. Mae gan y ceiliogod ben du gyda gwawr wyrdd arno a darn gwyn bron yn grwn islaw y llygad. Mae'r cefn yn ddu a'r gwddf a'r bol yn wyn. Brown yw lliw pen yr iâr gyda'r corff yn llwyd.

Mae'n nythu yn rhannau gogleddol Ewrop, Asia a Gogledd America lle bynnag mae afonydd neu lynnoedd a fforestydd o'u cwmpas, gan ddefnyddio tyllau mewn coed ar gyfer y nyth. Defnyddir blychau nythu os bydd rhai ar gael, ac mae darparu'r rhain wedi arwain at gynnydd yn y boblogaeth, er enghraifft yn Yr Alban. Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de a'r gorllewin ac yn gaeafu ar lynnoedd neu weithiau mewn mannau cysgodol ar yr arfordir. Maent yn plymio i ddal eu bwyd, sef pysgod bychain neu greaduriaid bychain eraill y gallant eu dal dan y dŵr.

Nid oes prawf fod yr Hwyaden lygad-aur wedi nythu yng Nghymru, er fod hynny yn bosibilrwydd yn y blynyddoedd diwethaf. Mae'n aderyn gweddol gyffredin yn y gaeaf.

Iâr
Bucephala clangula