Hwyaden

aderyn o deulu'r Anatidae
(Ailgyfeiriad o Hwyaid)

Aderyn dŵr cyfandroed yw hwyaden, hwyad neu yng ngogledd Cymru: chwaden. Mae dros 120 o rywogaethau ledled y byd. Dyma'r teulu Anatidae ynghyd ag elyrch a gwyddau.[1] O ran maint mae'r hwyaden ychydig yn llai na'r alarch a'r ŵydd - ill dau hefyd yn aelodau o'r un teulu, Anatidae.[2] Mae'r teulu hwn o adar o fewn yr urdd Anseriformes.[3][4]

Eu cynefin arferol yw dŵr a thir gwlyb. Maen nhw'n medru byw mewn dŵr hallt a dŵr croyw.[1]

Hen Benillion

golygu

Ceir nifer o hen benillion Cymraeg sy'n sôn am chwiaid:

Difyr yw hwyaid yn nofio ar y llyn,
Eu pigau sy'n gochion a'u plu sydd yn wyn.
Rhônt ddeudro neu drithro yn fywiog a chwim.
Beth bynnag a welant, ni ddwedant hwy ddim.

Gellir dweud, fodd bynnag, fod y pennill hwn yn sôn mwy am bobl nag am hwyaid!

Rhestr Wicidata:

teulu enw tacson delwedd
Hwyaden Ddanheddog Mergus merganser
 
Hwyaden Frongoch Mergus serrator
 
Hwyaden gribog Brasil Mergus octosetaceus
 
Hwyaden gribog Tsieina Mergus squamatus
 
Hwyaden lostfain Anas acuta
 
Hwyaden wyllt Anas platyrhynchos
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Perrins, Christopher, gol. (2004) The New Encyclopedia of Birds, Oxford University Press, Rhydychen.
  2. Bywiadur Llên Natur / Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 3 Mehefin 2016
  3. del Hoyo, J.; Elliot, A. & Christie D. (gol.). (2007). Handbook of the Birds of the World. ISBN 978-84-96553-42-2
  4. ICZN 1999. International Code of Zoological Nomenclature. 4ydd rhifyn. The International Trust for Zoological Nomenclature, Llundain. 306 tt.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Chwiliwch am hwyaden
yn Wiciadur.