Hywel A
Drama gomedi Gymraeg i'r llwyfan yw Hywel A o waith y dramodydd Huw Roberts. Dyma'r ddrama gyntaf mewn trioled gyda Pont Robat a Plas Dafydd yn ei dilyn. Cyhoeddwyd y ddrama gan Wasg Carreg Gwalch ym 1981. Llwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1979.
Awdur | Huw Roberts |
---|---|
Cyhoeddwr | Gwasg Carreg Gwalch |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | Rhagfyr 1981 |
Cysylltir gyda | Cwmni Theatr Cymru |
Math | Drama Gymraeg |
Argaeledd | allan o brint |
Tudalennau | 96 |
Cefndir byr
golyguLleolir y ddrama yn 'ystafell dderbyn Plas Helyg, cartref Hywel A, miliwnydd ac amaethwr'. Tra bod Hywel A yn gwella ar ôl trawiad ar ei galon, mae ei wraig yn ceisio'i gorau i sicrhau mai hi fydd etifedd ei gyfoeth. Mae'n cyd-weithio gyda'r meddyg a 'hen ffrind' i'w gŵr, a chyn-gariad iddi hithau, i wireddu ei dymuniad.
Disgrifiodd John Ogwen y tair drama fel tri phlentyn i’r dramodydd a'i gyfrifiadur, yn Rhaglen cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o Plas Dafydd ym 1987.
“Mae'r tri plentyn yn debyg iawn i'w gilydd ond fel brodyr ymhob teulu mae i bob un ei arwhanrwydd ei hun. Pob un yn tynnu ar ôl eu tad wrth reswm pawb - difyr, llawn hiwmor a direidi, ond hefyd gydag elfen gref o ddifrifolwch bob hyn a hyn. Yn enwedig y 'fenga 'ma. [...] 'Roedd y ddau hyna', Hywel A Robat, yn hynod boblogaidd efo pawb ymhob man a'does gen i ddim dowt na fydd Dafydd 'ma hefyd. Synnwn i ddim na thyfith Dafydd yn hogyn clyfrach a chryfach na hyd yn oed y ddau arall. Amser a ddengys”.[1]
"Enillodd Hywel A ei phlwyf yn haeddiannol ar sail ei llwyddiant yn Eisteddfod Caernarfon ac ar y daith drwy'r wlad ar ôl hynny," yn ôl y llenor a'r bardd Gruffudd Parry, yn Rhagair i'r cyhoeddiad ym 1981; "Clyfrwch ffars a bywiogrwydd comedi yw ei phrif nodweddion, a bu ymateb cynulleidfaoedd ymhobman yn dystiolaeth i'w hapêl. [...] Gellid tybio mai crefft llwyfan a medr actorion yn unig oedd yn gyfrifol am slicrwydd a bwrlwm y perfformiad cyntaf, ond amheuthun iawn ydyw cael cyfle fel hyn i ddarllen y ddrama a sylweddoli mai'r gair ar bapur ydyw'r man cychwyn. Medru siarad ydyw arbenigrwydd mawr dyn ac iaith ydyw'r hanfod bob tro", ychwanegodd.[2]
Cymeriadau
golygu- Blodwen - gwraig Hywel A
- Syr John Prydderch - meddyg
- Alec - gwas y Plas
- Men - merch Hywel A a Blodwen
- Harri - hypnotydd anifeiliaid
- Marged
- Hywel A - miliwnydd ac amaethwr
- Wilias
Cynyrchiadau nodedig
golygu1970au
golyguLlwyfanwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1979. Cyfarwyddwr John Ogwen; cynllunydd Martin Morley; cast:
- Blodwen - Maureen Rhys
- Syr John Prydderch - Islwyn Morris
- Alec - Wyn Bowen Harris
- Men - Mari Gwilym
- Harri - Dyfed Thomas
- Marged - Sioned Mair
- Hywel A - Huw Ceredig
- Wilias - Ifan Huw Dafydd