Huw Roberts
Athro a dramodydd oedd Huw Roberts (Huw Rheinallt) (18 Tachwedd 1921 – 25 Mehefin 2010).[1]
Huw Roberts | |
---|---|
Ffugenw | Huw Rheinallt |
Ganwyd | 1921 Llanberis |
Bu farw | 25 Mehefin 2010 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, athro |
Brodor o Lanberis ydoedd wedi ei eni'n un o chwech ar lethrau'r Wyddfa. Ar ôl graddio mewn Cemeg a Daeareg yn Aberystwyth, a gorfod gweithio'n oruchwyliwr mewn ffatri ffrwydon ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, fe'i benodwyd yn athro Cemeg ym Motwnnog ym 1978. Bu'n byw ym Mhwllheli ers 1946.[2]
Daeth Huw Roberts yn adnabyddus yn bennaf ym myd y ddrama. Dechreuodd ysgrifennu, nofel a dramâu teledu tua canol y 1960au. Roedd yn awdur tair drama lwyfan a sawl drama deledu. Bu'n gysylltiedig â Phobol y Cwm o'r dechrau ac am dros ddeng mlynedd gweithiodd ar y gyfres, yn awdur a golygydd sgriptiau. Ysgrifennodd ei ddrama lwyfan gyntaf, Hywel A i Gwmni Theatr Cymru ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1979, a dilynodd honno gyda'r ffars Pont Robat yn fuan wedyn. Ym 1987, gorffennodd ei drioled efo'r ffars Plas Dafydd a lwyfanwyd yr un flwyddyn gan Gwmni Theatr Gwynedd. Disgrifiodd John Ogwen y tair drama fel “tri phlentyn” i'r dramodydd a'i gyfrifiadur, yn Rhaglen y cynhyrchiad ym 1987:[2]
“Mae'r tri plentyn yn debyg iawn i'w gilydd ond fel brodyr ymhob teulu mae i bob un ei arwhanrwydd ei hun. Pob un yn tynnu ar ôl eu tad wrth reswm pawb - difyr, llawn hiwmor a direidi, ond hefyd gydag elfen gref o ddifrifolwch bob hyn a hyn. Yn enwedig y 'fenga 'ma. [...] 'Roedd y ddau hyna', Hywel A Robat, yn hynod boblogaidd efo pawb ymhob man a'does gen i ddim dowt na fydd Dafydd 'ma hefyd. Synnwn i ddim na thyfith Dafydd yn hogyn clyfrach a chryfach na hyd yn oed y ddau arall. Amser a ddengys”.[3]
Cydnabuwyd ei waith a'i dalent gan Gymdeithas Theatr Cymru a daeth yn Llywydd Anrhydeddus. Bu hefyd yn weithgar â Phanel Drama'r Eisteddfod Genedlaethol, Cwmni Theatr Cymru, Theatr Gwynedd, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chymdeithas Gelfyddydau'r Gogledd. Bu'n actio a chyfarwyddo gyda chwmni Glan y Môr, Pwllheli, o'r 1940au hyd ddiwedd y 1960au.
Cafodd ei urddo i'r Orsedd yn Eisteddfod Meifod 2003 a'i adnabod fel Huw Rheinallt.
Bu farw ar 25 Mehefin 2010 ac fe'i gladdwyd ym mynwent Penrhos, Pwllheli.
Dramâu
golygu- Hywel A (1979)
- Pont Robat (1981)
- Plas Dafydd (1987)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Robyn Lewis. "Huw Roberts (Huw Rheinallt) - Athro a Dramodydd". Cyrchwyd 19 Awst 2024.
- ↑ 2.0 2.1 Rhaglen Plas Dafydd - Cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd.
- ↑ Rhaglen Plas Dafydd Cwmni Theatr Gwynedd.