Ffars ddwy act gan y dramodydd Huw Roberts yw Plas Dafydd a gyfansoddwyd ym 1987. Mae'n cwblhau ei drioled o ddramâu a gychwynodd gydag Hywel A (1979) a dilynwyd gan Pont Robat (1981), gyda'r enwau personol yn cysylltu'r tair. Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Gwynedd ym 1987.

Plas Dafydd
AwdurHuw Roberts
GwladBaner Cymru Cymru
IaithCymraeg
Cysylltir gydaCwmni Theatr Gwynedd
MathDrama Gymraeg
Argaeleddheb ei gyhoeddi

Cefndir byr

golygu

Disgrifiodd John Ogwen y tair drama fel tri phlentyn i’r dramodydd a'i gyfrifiadur, yn Rhaglen cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o Plas Dafydd ym 1987.

“Mae'r tri plentyn yn debyg iawn i'w gilydd ond fel brodyr ymhob teulu mae i bob un ei arwhanrwydd ei hun. Pob un yn tynnu ar ôl eu tad wrth reswm pawb - difyr, llawn hiwmor a direidi, ond hefyd gydag elfen gref o ddifrifolwch bob hyn a hyn. Yn enwedig y 'fenga 'ma. [...] 'Roedd y ddau hyna', Hywel A Robat, yn hynod boblogaidd efo pawb ymhob man a'does gen i ddim dowt na fydd Dafydd 'ma hefyd. Synnwn i ddim na thyfith Dafydd yn hogyn clyfrach a chryfach na hyd yn oed y ddau arall. Amser a ddengys”.[1]

Lleolir y digwydd yn hen blasdy Plas Dafydd sydd wedi ei droi'n Glinig Adfywiad.

Ni chafodd y ddrama erioed mo'i chyhoeddi.

Cymeriadau

golygu
  • Angharad
  • Arolygydd Blaidd
  • Dewi
  • Catrin - nyrs
  • Tudur ap Tudur
  • Pyrs
  • Dafydd - perchennog y Plas
  • Saer
 
Llun o gast Plas Dafydd o 1987

Cynyrchiadau nodedig

golygu

1980au

golygu

Llwyfanwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Gwynedd ym 1987 yn Theatr Gwynedd, Bangor cyn mynd ar daith gyda John Ogwen yn cyfarwyddo a Christopher Green yn cynllunio. Cynllunydd Goleuo oedd Tony Bailey Hughes.[1] Cast:

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Rhaglen Plas Dafydd Cwmni Theatr Gwynedd.